Rhoi

Helpu pobl sy’n profi digartrefedd ar hyd a lled Cymru

Rhoi

Os byddwch chi’n penderfynu rhoi rhodd untro neu’n rhoi rhodd bob mis, diolch yn fawr.

Rydych chi’n ymuno â chymuned o bobl sydd wedi ymrwymo i atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Gallai rhodd reolaidd helpu rhywun i symud i’w gartref newydd, rhoi gwres i rywun neu fynediad at gwnsela iechyd meddwl.

Gallai rhodd untro helpu rhywun i gael eitemau hanfodol, fel bwyd sylfaenol a dillad cynnes pan fydd eu hangen.

Pam rhoi?

Symudodd Charlie* i eiddo ar ôl cyfnod o fod yn ddigartref. Roedd yr eiddo yn gragen wag gyda lloriau concrid moel, un gadair ac un gwely.

Mae gan Charlie heriau iechyd meddwl difrifol a doedd yr amgylchedd ddim yn addas i’w lesiant.

Roedd The Wallich wedi darparu carpedi, celfi meddal a chelfi eraill i droi’r fflat gwag yn gartref.

* Astudiaeth achos cleientiaid o adroddiad Cronfa Cymorth Ariannol The Wallich. Mae’r holl enwau a manylion adnabod wedi cael eu newid i ddiogelu’r cleient.

Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n gallu bod yn anodd sefydlu cartref a chynnal tenantiaeth.

Dyna pam, gyda’ch help chi, gallwn ddarparu cymorth brys i unigolion a theuluoedd pan fyddan nhw ei angen fwyaf, gan helpu gyda biliau ynni, bwyd ac eitemau hanfodol i’r cartref.

Darllenwch ein hastudiaethau achos

Chwilio am ffyrdd eraill o gefnogi pobl sy’n ddigartref?

Mae pobl yn cefnogi The Wallich mewn gwahanol ffyrdd.

Boed hynny drwy godi arian yn y gwaith, rhoi drwy’r gyflogres, wirfoddoli neu fynd ar daith Anweledig (Caerdydd).

Mae sawl ffordd i chi gefnogi rhywun sy’n ddigartref.

Cysylltwch â’n tîm heddiw.

Tudalennau cysylltiedig