PIE: Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol

Sut yr ydym yn addasu ein ffyrdd o weithio i fod yn ystyriol o’r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma yn eu gorffennol

Beth yw Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol?

Yn The Wallich, rydym yn ceisio creu Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) er mwyn i’n defnyddwyr gwasanaeth ymgysylltu’n llwyddiannus â gwasanaethau – gan ystyried eu hanes a’u profiadau cyn ymgysylltu â ni.

Rydym yn cydnabod bod pobl sy’n profi digartrefedd yn tueddu i fod wedi’u heffeithio’n waeth o safbwynt profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) neu drawma.

Bydd trawma heb ei ddatrys yn llywio barn rhywun am y byd. Mae eu hymddygiad, sy’n aml yn ymateb i drawma, fel arfer yn cael ei labelu fel anghenion cymhleth neu luosog.

O gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, mae pobl ag un neu fwy ACE yn fwy tebygol o:

Fodd bynnag, nid yw’r ffaith bod rhywun wedi profi trawma yn eu gorffennol yn golygu y dylent gael eu diffinio gan hyn, ond dylai gwasanaethau ei ystyried wrth gynnig cymorth.

Mae perthnasoedd iach yn allweddol i wella ar ôl trawma

Ceisiwn wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod meithrin perthynas yn ganolog i’n Hamgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol.

Rydym yn dileu unrhyw rwystrau ffisegol neu seicolegol a allai atal rhywun rhag derbyn help a gwneud y gorau o’r cymorth sydd ar gael.

Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn The Wallich

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Gall Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol ymddangos yn anodd ac yn gymhleth i’w ddeall, ond yn The Wallich rydym ni’n credu ei fod yn eithaf syml:

Mae dilyn dull PIE yn golygu byw ein gwerthoedd a rhoi perthnasoedd wrth galon popeth a wnawn, cael rhywfaint o ddealltwriaeth i arwain ein gwaith a chofio i fyfyrio ar ein profiadau a dysgu ohonynt.

5 Maes Allweddol PIE

textimgblock-img

Ymwybyddiaeth Seicolegol

Rydym ni’n dosturiol bob amser.

Adeiladu a chynnal perthnasoedd iach yw’r allwedd i’n gwaith.

Mae’r maes hwn yn golygu defnyddio ymwybyddiaeth o ddamcaniaethau neu ddulliau seicolegol i’n helpu i ddeall y bobl rydym ni’n gweithio gyda nhw, a ni ein hunain.

Yn The Wallich, ein dealltwriaeth o drawma a’r egwyddorion sy’n ystyriol o drawma yw sylfaen ein Hamgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol.

Hyfforddiant a Chymorth Staff

textimgblock-img

Rydym yn ddilys. Rydym yn deall bod staff gwydn sydd wedi’u hyfforddi’n dda yn hanfodol i lwyddiant PIE, felly mae lles staff a pherthnasoedd cefnogol a myfyriol yn allweddol.

Mae’r maes hwn yn golygu, pan fydd pethau’n anodd neu’n mynd yn dda, y byddwn yno i gefnogi, adrodd yn ôl a dathlu. Mae ein hyfforddiant amrywiol yn parhau i dyfu i ddiwallu anghenion ein staff.

Mannau Llawn Cyfleoedd

Rydym ni’n gymuned.

textimgblock-img

Mae’r maes hwn yn golygu meddwl am yr holl lefydd a mannau mae ymgysylltu’n digwydd a’u gwneud yn hygyrch, yn groesawgar, yn barchus ac yn ddiogel i bawb.

Yn ogystal â’n hadeiladau a’n swyddfeydd, mae hyn yn cynnwys mannau a llefydd allanol, y rhwydweithiau a’r systemau ehangach y mae’n rhaid i’n cymuned ymgysylltu â nhw ac, yn bwysig, pwysleisio a mynd i’r afael â nhw lle mae’r rhain yn heriol.

textimgblock-img

Dysgu ac Ymholi

Rydym ni’n ddewr.

Mae’r maes hwn yn golygu ein bod bob amser yn ceisio myfyrio er mwyn parhau i ddysgu, i fod yn onest am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, ac i roi’r dysgu hwnnw ar waith, er mwyn i ni a’n gwasanaethau barhau i esblygu.

Mae hyn hefyd yn golygu rhannu ein dysgu ag eraill.

Y 3R: Rheolau, Rolau ac Ymatebolrwydd

Rydym yn benderfynol. Mae’r maes hwn yn golygu ein bod yn rhoi PIE ar waith yn ein gwaith ymarferol o ddydd i ddydd.

textimgblock-img

Dylai ein rheolau a’n gweithdrefnau gweithredu fod yn ystyriol o drawma, yn glir, yn gyson ac yn gadarnhaol o ran bwriad. Mae defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu gwerthfawrogi a dylent gael cymaint o gyfleoedd â phosibl i gymryd rhan mewn digwyddiadau.

Rydym yn ymatebol i unigolion ac yn teilwra profiadau i ddiwallu eu hanghenion, gan ymateb i anghenion staff a gwasanaethau ar yr un pryd.

Pam fod PIE yn bwysig?

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Grant Cymorth Tai (HSG) yn nodi:

“Dylid comisiynu a darparu gwasanaethau cymorth gan ddefnyddio dull gweithredu sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol ac sy’n cydnabod effaith trawma ac yn ymateb yn briodol i hynny.”

Yn The Wallich, ystyriwn  ein hunain yn arweinwyr yn y maes hwn a byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau a rhannu arfer da.

Sut alla i gael gwybod mwy am PIE?

Os hoffech wybod mwy am sut rydym yn gweithredu ‘PIE’ ar gyfer ein prosiectau, cysylltwch â’n Rheolwr Datblygu Gweithredol PIE, Anthony Vaughan.

 

Tudalennau cysylltiedig