Stori Steve

30 Apr 2021

Mae Steve wedi bod yn gweithio gyda’i weithiwr cefnogi yn ein Gwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) yn Abertawe ers rhai blynyddoedd

Mae’r gwasanaeth yn helpu pobl gyda thai, cyllidebu, budd-daliadau, caethiwed, iechyd a mwy i leihau’r risg o fod yn ddigartref.

Darllenwch stori Steve

“Fe wnes i gyfarfod fy ngweithiwr cymorth Anne, am y tro cyntaf, flynyddoedd yn ôl, pan oedd hi’n gweithio i fudiad arall. Roedd angen gweithiwr cefnogi tenantiaid arna i ar y pryd ac roedd hi’n wych.

Doeddwn i ddim ei hangen hi eto am sbel ond wedyn roedd adeg yn fy mywyd lle’r oedd angen ei chymorth arna i eto – y tro hwn gyda The Wallich a phrosiect PAWS Abertawe.

Roeddwn i mewn perthynas wenwynig ac roeddwn i’n gaeth i sylweddau. Bu Anne yn gweithio gyda fi ac asiantaethau cyffuriau ac alcohol eraill fel WACADA, sydd wedi bod yn wych.

Fe wnaethon ni roi cynnig ar driniaeth detox. Methodd hynny, ond pan ddois i nôl allan, fe wnaethon ni ddal ati i geisio gwella, gydag asiantaethau eraill.

Yna, fe wnes i gyfarfod fy mhartner presennol, Gemma. Roedd hi’n cael rhywfaint o broblemau o fod yn gaeth i sylweddau hefyd. Weithiau mae hynny’n destun trafferth go iawn, ond gyda’n gilydd, un diwrnod, fe wnaethon ni benderfynu rhoi’r gorau iddi.

Mae adferiad yn dal yn waith caled, ond rydw i mewn lle llawer gwell nawr.

Roeddwn i’n dal i weithio gydag Anne pan aeth Gem yn feichiog. Oherwydd ein hanes o fod yn gaeth i sylweddau, roedd y gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o’r broses. Felly fe wnaeth hi ein cefnogi ni gyda hynny hefyd, ac roedd yr help hwnnw’n llawer mwy na’r disgwyl.

textimgblock-img

Yn ogystal â helpu gydag adferiad a gwasanaethau cymdeithasol, trefnodd Anne ein budd-daliadau a’n sefyllfa o ran cael tŷ.

Cefais i drafferthion gydag ôl-ddyledion rhent pan symudais i mewn am y tro cyntaf, ond gweithiodd Anne gyda’m swyddog tai a gwneud yn siŵr bod hynny’n cael ei ddatrys hefyd.

Roedd hi’n gwybod fy mod yn trio, felly mae hi wastad wedi mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau ac roedd hi bob amser ar y ffôn yn rhoi trefn ar rywbeth i ni!

Un diwrnod, diflannodd y gwasanaethau cymdeithasol ac roedd popeth yn iawn. Felly, awgrymodd Anne fy mod yn cofrestru ar gyfer cwrs WISE The Wallich [Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy].

Ar y diwrnod cyntaf, roeddwn i ychydig yn ansicr ac yn meddwl “Beth yw hyn, beth sy’n mynd ymlaen?” Ond pan ddois yn ôl ar ôl y diwrnod cyntaf hwnnw, dywedais wrth Gemma, “Rwy’n meddwl mai dyma’r peth sy’n mynd i newid pethau.”

Ro’n i’n gwneud yn dda iawn gydag e. Fe ddechreuais wirfoddoli a gweld The Wallich fel teulu – y ffordd y maen nhw’n tynnu pobl o’r dyfnderoedd ac wir yn poeni am bawb.

Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n anghyflogadwy. Roedd gen i gofnod troseddol ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n rhaid i mi weithio mewn bar neu rywle tebyg bob amser. Ond pan wnes i wirfoddoli yn llety Croes Ffin The Wallich yn y Barri, roeddwn i’n teimlo’n rhan o bethau yno – ac roedd yn addas i fi. Dechreuais weld bod pethau’n gwella.

Fe wnes i raddio o WISE ac yna fe ddaeth y cyfnod clo. Felly, roedd hi’n anodd gwybod beth i’w wneud nesaf.

Yna, fe wnaeth Anne fy annog i wneud cais am swydd gyda The Wallich. Hwn oedd fy nghais cyntaf am swydd mewn 25 mlynedd ar gyfer gweithio mewn hostel yng Nghaerdydd.

Fe gefais i’r swydd. Allwn i ddim credu’r peth. Roedd gen i ychydig o amser i aros cyn dechrau, ond allwn i ddim credu’r peth yn iawn nes i mi gyrraedd yno.

Fe wnaeth hyn ysbrydoli Gem i gael swydd hefyd. Dechreuodd weithio yn y diwydiant gofal ond doedd hi ddim yn ei hoffi gymaint. Fe welodd pa mor hapus oeddwn i, yn mynd i weithio gyda gwên ar fy ngwyneb, hyd yn oed ar ôl chwe mis.

Felly, cyflwynodd Gem gais ar gyfer un o hosteli The Wallich yn Abertawe. Fe gafodd hi’r swydd.

Mae’n ddoniol fy mod bob amser wedi gweld The Wallich fel teulu – a nawr rydyn ni’n deulu sy’n gweithio i The Wallich!

Roeddwn i’n hoffi’r swydd oedd gen i yng Nghaerdydd ond doedd cael y trên o Abertawe ar gyfer pob shifft ddim yn ddelfrydol.

Felly, pan ddaeth swydd gyda The Wallich yn nes at gartref yn Abertawe, fe wnes i gais. Cefais gymorth gan fy rheolwr yn hostel Caerdydd i wneud cais oherwydd byddai’n gam da i mi.

Felly, rwy’n gweithio mewn hostel yn Abertawe erbyn hyn. Rydw i wrth fy modd gyda The Wallich. Rydw i wrth fy modd â’r bobl.

Rwy’n sgwrsio gyda’r criw ar y prosiect ac weithiau maen nhw’n dweud y byddai’n well ganddyn nhw siarad â rhywun fel fi, sydd wedi bod drwy brofiad tebyg.

Mae’r cleientiaid yn uniaethu â’r hyn rwy’n ei ddweud wrthyn nhw. Dydw i ddim wedi darllen y cyfan mewn llyfr. Rydw i wedi byw’r profiad.

Mae meddwl rhywun sy’n gaeth i gyffuriau’n gweithio’n wahanol. Rwy’n deffro bob dydd ac rwy’n dal i fod ar y daith adfer.

Rydw i’n ceisio eu cael i feddwl yn wahanol – newid eich ffordd o feddwl, nid eich ffordd o yfed, yw’r hyn rydw i’n ei ddweud. Rydyn ni’n dod ymlaen yn dda iawn.

Rwy’n nabod llawer o’r bobl ddigartref yn Abertawe beth bynnag drwy wirfoddoli gyda’r eglwysi a’r banciau bwyd, a phan fyddaf yn eu gweld yn dod i’r hostel mae’n anhygoel. Rydw i bob amser yn dweud, “O haia, sut wyt ti?” ac rydw i’n hapus iawn iddyn nhw.

Gwelodd Anne rywbeth ynof fi, nad oeddwn i’n ei weld hyd yn oed. Nawr, rwyf innau am helpu pobl eraill yn yr un modd.

Mae pobl yn The Wallich wir yn poeni am bawb, y staff, y gwirfoddolwyr, y cleientiaid, pawb.

Gan feddwl am y dyfodol, y freuddwyd tymor hir ar gyfer ymddeol fyddai cael ein canolfan detox ein hunain yn y goedwig, lle gallai pobl fyfyrio ac adfer ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau. Gan fy mod i wedi bod drwy’r broses adfer, rwy’n meddwl y gallai hynny weithio go iawn i bobl.

Ond am y tro, rydw i’n fwy na bodlon cael rhannu fy stori. Dim ond tair blynedd a hanner sydd wedi mynd heibio ers i mi fod mewn cyfyng gyngor. Bellach rwyf wedi gwella – a hynny yn ystod pandemig!

Rwy’n gobeithio y bydd rhannu fy stori yn helpu rhywun fel fi i symud ymlaen gyda’u bywyd hefyd.”

 

Dywedodd Anne Capel, Uwch Weithiwr Cymorth gyda The Wallich, PAWS, Abertawe:

“Doedd gan Steve ddim hyder ar y dechrau ac ni fyddai’n cydnabod ei lwyddiant. Fe gymerodd amser i Steve dderbyn adborth cadarnhaol.

Roeddwn i bob amser yn gwybod y gallai drechu ei ddibyniaeth ar sylweddau a gwneud gweithiwr cymorth rhagorol oherwydd ei brofiadau go iawn.

Ar nodyn ysgafnach, mae’n debyg mai fi oedd yr unig weithiwr a lwyddodd i herio ei ymddygiad ac mae’r ddau ohonom yn chwerthin am y sefyllfa.”

 

Mae gan The Wallich ymrwymiad i gyflogi pobl sydd â phrofiad go iawn o ddigartrefedd, a’r materion croestoriadol sy’n cyfrannu at ddigartrefedd. Adeg ysgrifennu hwn, roedd 19% o staff The Wallich yn dweud bod ganddynt brofiad go iawn o hynny.

Tudalennau cysylltiedig