Bancio eich arian noddi

Talu eich arian noddi i mewn

Mae The Wallich yn ddiolchgar am eich holl ymdrechion i godi arian. Yr unig beth sydd ar ôl yw talu eich arian noddi i mewn

Llongyfarchiadau

Rydych wedi cynllunio ac wedi gwneud eich gorau. Yn awr, y cam olaf, dyma sut y gallwch dalu eich arian noddi i mewn yn ddidrafferth.

textimgblock-img

Dychwelyd drwy ddefnyddio eich tudalen JustGiving

Os ydych chi wedi creu tudalen codi arian ar-lein fel JustGiving, bydd yr arian mae pobl wedi’i roi’n dod yn uniongyrchol i The Wallich.

Dim tudalen codi arian? Nid yw’n costio a dim ond munudau a gymer i’w chreu.

textimgblock-img

Dychwelyd eich arian ar-lein

Ewch i’n tudalen roddion syml a llenwch y ffurflen syml.

Gallwch anfon eich ffurflenni noddi drwy’r post.

Dylech gynnwys disgrifiad o’ch digwyddiad codi arian yn y blwch sylwadau ychwanegol.

textimgblock-img

Dychwelyd yr arian dros y ffôn

Ffoniwch gan ddefnyddio eich cerdyn credyd neu ddebyd drwy ein ffonio ar: 02920 668 464

Mae’r llinellau’n agored o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 5pm.

textimgblock-img

Dychwelyd eich arian drwy’r post

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘The Wallich’ gyda’n ‘ffurflen rhoddion drwy’r post’ i’r cyfeiriad rhadbost:

The Wallich – Cardiff Hub, 18 Park Place, Caerdydd, CF10 3DQ

Rhagor o wybodaeth

Mae ein tîm codi arian cyfeillgar wrth law bob amser i gynnig help ac arweiniad.

Cysylltwch â Thîm Codi Arian Wallich

E-bost
dosomething@thewallich.net

Ffôn
07786 255 225