A ydych chi wedi dechrau cynllunio digwyddiad codi arian cyffrous? Neu a hoffech chi ddangos eich cefnogaeth, ond bod angen ychydig o ysbrydoliaeth neu help llaw arnoch?
Rydym yma i’ch helpu i wneud yn siŵr y bydd eich digwyddiad codi arian yn llwyddiant mawr.
Anfonwch am eich pecyn codi arian di-dâl heddiw, lle cewch ddigon o gyngor ar sut i drefnu’r digwyddiadau gorau, pob math o awgrymiadau a thriciau bach i’ch helpu i gyrraedd ac i ragori ar eich targed, yn ogystal â defnydd o adnoddau hyrwyddo di-dâl.
Defnyddiwch eich hoff gyfryngau cymdeithasol i godi arian.
Mae llawer yn pennu targed ar eu pen blwydd neu’n ei ddefnyddio i gyrraedd ffrindiau a theulu yn ystod her noddedig.
Casglwch roddion ar gyfer The Wallich drwy becyn codi arian Facebook sy’n hawdd i’w ddefnyddio.