Codi arian dros y we: beth am gadw’r cysylltiad ar-lein

29 Jul 2020

Mae bywyd wedi bod yn anodd iawn yn ystod y pandemig ac mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhyfedd iawn i bawb.

Yn y Wallich, rydym wedi gorfod addasu a newid y ffordd rydym yn gweithio er mwyn parhau i gefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau yn ystod yr amser anodd hwn.

Yn fwy nag unrhyw beth arall, mae’r pandemig wedi dangos pa mor gydgysylltiedig rydyn ni gyd.

I ddyfynnu’r bardd enwog, John Donne:

“No man is an island, entire of himself”

Rydyn ni gyd angen dibynnu ar ein gilydd a gofalu am ein gilydd. Hyd yn oed wrth i’r cyfyngiadau symud lacio, ni ddylem golli’r ymdeimlad o gymuned rydym wedi’i adeiladu gyda’n gilydd. Dylem barhau i gofleidio’r ‘normal newydd’ hwn, beth bynnag fydd gofynion gwneud hynny.

Mae ein gwasanaethau ledled Cymru wedi gwneud hynny.

Rydym wedi cyflawni pethau gwych trwy gydol y pandemig; gan addasu’r ffordd rydym yn ymateb i’r rheini mewn risg drwy ddarparu cymorth.

Ein gwaith yn ystod y cyfyngiadau symud

Codi arian dros y we: cofleidio’r ‘normal newydd’

Er mwyn diogelu pawb, mae pob elusen wedi gorfod newid eu dulliau casglu arian.

Gan nad yw’r dulliau mwy traddodiadol o gasglu arian yn ymarferol bellach oherwydd y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol, bydd elusennau’n colli miliynau o incwm o arian sy’n cael ei gasglu.

Fodd bynnag, rydym yn byw mewn byd sy’n troi’n fwy digidol, lle mae pobl wych yn canfod ffyrdd newydd ac arloesol o godi arian.

Yn lle’r digwyddiadau torfol, mae ein cefnogwyr wedi cynnal rasys hwyl rhithwir yn eu milltir sgwâr, maent wedi cynnal dosbarthiadau coginio ar-lein yn lle stondinau gwerthu cacennau mewn swyddfeydd a disgo mewn cegin yn lle gigiau elusennol mewn tafarndai.

Mae’r Her 2.6 a gynhaliwyd ledled y DU yn enghraifft dda o ymgyrch codi arian lwyddiannus dros y we – gan godi dros £11 miliwn ac ysbrydoli miloedd o bobl i godi arian i achosion da.

Ond rydym angen cynnal y momentwm i gasglu arian dros y we.

Rydym yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd ac rydym yn dibynnu ar gymorth ein rhoddwyr i’n helpu i allu parhau i roi cymorth i’r bobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd trwy gydol yr argyfwng hwn a thu hwnt.

Codi arian dros y we

Codi arian dros y we

Cyn dechrau arni, dylech sefydlu tudalen JustGiving.

Yna, mae gennym ffyrdd syml y gallwch chi ein cefnogi ni, fel elusen ddigartrefedd, dros y we.

Codi neu Roi 20

Cymerwch ran yn ein hymgyrch #Ailadeiladu20 / #Rebuild20. Dewiswch her neu weithgaredd yn seiliedig ar y rhif 20, sefydlu tudalen JustGiving ac rydych yn barod amdani.

Cwis Tafarn neu Noson Bingo Dros y We

Beth am brofi gwybodaeth eich ffrindiau gyda chwis dros y we. Gallwch greu cwis eich hun neu ddefnyddio cwis sydd eisoes yn bodoli ar y we.

Dosbarthiadau rhannu sgiliau

Beth am arwain gwers ioga ar-lein, sesiwn iaith dramor neu wers coginio.

Twitch

Gnweud i’ch gêm fynd ymhellach: defnyddiwch Twitch i ffrydio eich gêm a gofyn am roddion.

Ffrydio byw

Gall perfformwyr talentog ddefnyddio Facebook neu Instagram Live i roi sioe. Gallwch werthu tocynnau neu ofyn am ‘roddion bach’ dros y we os yw’r gynulleidfa’n hoffi’r hyn maent yn ei weld.

Codi arian ar eich pen-blwydd

Ydych chi’n siomedig eich bod yn gorfod dathlu eich pen-blwydd yn ystod pandemig? Gallai codi arian dros Facebook eich helpu i deimlo eich bod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil ar eich pen-blwydd drwy helpu achosion da.

Tudalennau cysylltiedig