Mae meddwl am beth sy’n digwydd ar ôl i ni fynd yn rhywbeth y byddai’n well gennym osgoi ei ystyried – ond gallai fod yn un o benderfyniadau pwysicaf bywyd.
Gallai eich cymynrodd chi greu dechrau newydd ym mywyd rhywun, gallai gynnig dyfodol mwy disglair a darparu llwybr allan o ddigartrefedd.
Mae gadael rhodd yn eich Ewyllys i elusen yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau y gallwn barhau i fod yno i ddarparu atebion i’r rhai sydd eu hangen.
Gall cyfraniad bychan gael effaith aruthrol a gall helpu i ddarparu dyfodol lle mae digartrefedd yn perthyn i’r gorffennol.
Ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn, yn byw yn ne Cymru ac eisiau gwneud gwahaniaeth?
Gallai’ch etifeddiaeth chi helpu rhywun i ddechrau ei fywyd o’r newydd drwy gynnig dyfodol gwell a darparu ffordd allan o ddigartrefedd.
Mae’n fis Chwefror sy’n golygu bod Mis Ewyllysiau’r Wallich yn ôl a bod gennych chi gyfle i adael rhodd yn eich ewyllys drwy lunio Ewyllys AM DDIM.
Rhagor o wybodaeth: supportercare@thewallich.net
Dyfodol lle na fydd unrhyw un yn gorfod cysgu ar y stryd.
Rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd ac arloesol i ddarparu ateb i’r nifer gynyddol o bobl sy’n cael eu gorfodi i gysgu allan.
P’un a yw hynny’n golygu cyflwyno mwy o dai neu ddatblygu mannau i welyau symudol mewn argyfwng, gallai eich cymynrodd chi ddylanwadu ar ddyfodol lle nad oes rhaid i unrhyw un dreulio noson ar y strydoedd.
Darllenwch stori Stuart a gweld sut y bydd eich rhodd chi’n gwneud gwahaniaeth
Diffyg tai addas a fforddiadwy yw un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu wrth helpu pobl oddi ar y strydoedd.
Mae gennym weledigaeth i ddatblygu’r micro-bentref cyntaf yng Nghymru – cymuned o gartrefi bach cynaliadwy, hunangynhwysol lle gall pobl fyw wrth iddynt ddechrau rhoi trefn ar eu bywydau.
Gallai rhodd yn eich Ewyllys helpu i greu ymdeimlad newydd o gymuned i’r rhai sydd wedi wynebu ynysu cymdeithasol am gymaint o amser.
I’r rhai sy’n gallu gweithio, sicrhau cyflogaeth sefydlog â thâl yw’r llwybr gorau yn aml allan o ddigartrefedd.
Drwy gynnig cyfle i rywun ddatblygu eu hyder a’u sgiliau, gallwn eu helpu i gefnu ar ddigartrefedd am byth.
Gallai rhodd yn eich ewyllys gynnig dyfodol mwy disglair i’r rhai sydd wedi bod ar yr ymylon.
Am wybodaeth bellach am sut y gallwch adael rhodd yn eich Ewyllys neu sut y bydd eich rhodd chi yn helpu’r rhai sydd ei hangen, cysylltwch â’n tîm.
E-bost: dosomething@thewallich.net
Ffoniwch: 029 2066 8464