Prosiect BOSS (Adeiladu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant)

Y Ganolfan Ddysgu 3 Pendyris Street,
Caerdydd, CF11 6RJ

Abertawe, Blaenau Gwent, Caerdydd a'r Fro, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Neath, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, Torfaen

02921 674 381

Rydyn ni’n grymuso cyn droseddwyr i wireddu eu potensial, arwain bywydau boddhaus a symud ymlaen i gyflogaeth.

Mae prosiect Adeiladu Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant The Wallich (BOSS) yn rhaglen gyflogadwyedd a llesiant ar draws de Cymru i bobl sydd â chefndir o droseddu.

Mae ein tîm o fentoriaid ymroddedig yn cefnogi unigolion drwy’r broses adsefydlu ac yn eu tywys tuag at fywyd mwy positif.

Canllaw Rhyddhau o’r Carchar

Rydyn ni wedi ymrwymo i chwalu’r ffiniau i gyflogaeth yn sgil record troseddol drwy weithio ochr yn ochr â chyflogwyr i gael mynediad at gronfa o dalent amrywiol, llawn cymhelliant.

Pwy rydyn ni’n eu helpu

Os ydych mewn carchar yn ne Cymru ar hyn o bryd neu ar brawf, mae’r prosiect yma i’ch helpu i ddod o hyd i sefydlogrwydd, i adennill rheolaeth ac i ddod o hyd i waith.

textimgblock-img

Ein ffordd o weithio

Rydyn ni’n gwrando’n gyntaf ac yna’n gofyn cwestiynau.

Drwy ddilyn model sy’n seiliedig ar drawma, rydyn ni’n adeiladu ar eich cryfderau ac yn teilwra ein cefnogaeth i wella eich hyder, cynyddu eich sgiliau a newid eich meddylfryd.

“Rwy’n edrych ymlaen i siarad â chi ac i wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac mae gwybod y byddwch chi’n gwrando ac yn fy nghefnogi yn golygu llawer.

Mae cael rhywun yno yn golygu cymaint i fi. Weithiau y cyfan sydd ei angen ar bobl yw cefnogaeth i wireddu eu potensial eu hunain.” – Cleient BOSS

Mae’r gefnogaeth yn cynnwys:

Eisiau gweld map trywydd o sut rydyn ni’n helpu pobl?

Edrychwch ar siwrnai Bob | Darllenwch stori  Kingsley

textimgblock-img

Arbenigwyr o brofiad

Mae ein mentoriaid cymheiriaid yn gwybod beth yn union rydych chi’n mynd drwyddo.

Mae mentoriaid cymheiriaid yn defnyddio eu profiadau personol o’r system cyfiawnder troseddol i’ch llywio drwy’r broses a’ch annog i ddod o hyd i’ch ffordd eich hun o ran llwyddiant.

Mae’r ffaith bod fy mentor wedi cael profiad uniongyrchol wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fi, mae angen mwy o fentoriaid fel Gemma y mae’n hawdd uniaethu â hi ac yn hawdd siarad â hi.– Cleient BOSS

Buddion i gyflogwyr

Ydych chi’n gyflogwr sy’n edrych i fynd i’r afael â phrinder sgiliau, yn ei chael hi’n anodd recriwtio, diddordeb mewn ‘gwahardd y blwch’ (‘ban the box’) neu eisiau bod yn fwy cymdeithasol gyfrifol?

textimgblock-img

Mae cyflogi cyn droseddwyr yn cyfrannu at leihau ail-droseddu ac yn creu cymunedau mwy diogel.

Mae gan brosiect BOSS brofiad o gefnogi cyflogwyr i asesu risg, creu polisïau recriwtio cynhwysol a nodi’r unigolion hynny sydd angen cyfle i ddisgleirio.

Siaradwch â ni i ddysgu mwy am sut gallwch chi gymryd rhan.

Mae’r sialensiau recriwtio ym maes adeiladu wedi tyfu. Rydyn ni’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i labrwyr ar gyfer prosiectau mawr. Mae BOSS wedi caniatáu i ni helpu pobl ac i fanteisio ar ffynhonnell recriwtio newydd.– Cyflogwr BOSS

Y broses atgyfeirio

Gofynnwch i’ch swyddog prawf i’ch atgyfeirio.

Os ydych yn asiantaeth sy’n rhoi cefnogaeth i unigolyn, siaradwch â ni i drafod eich llwybrau atgyfeirio.

Tudalennau cysylltiedig