Gogledd Ddwyrain Cymru Gwasanaeth Datrys Anghydfod Sir Ddinbych & Conwy

UNIT C, Kinmel Business Centre, Tir Llwyd Enterprise Park, Kinmel Bay, LL18 5JZ

Sir Ddinbych

01745 345500

Gwasanaeth cynhwysfawr datrys anghydfod a chyfryngu

Rydym yn wasanaeth diduedd ac annibynnol, sy’n cael ei ddarparu gan staff sydd wedi’u hyfforddi a’u hachredu.

Mae ein gwasanaeth datrys anghydfod a chyfryngu am ddim ac ar gael i unrhyw un yn y fwrdeistref sydd mewn anghydfod a allai effeithio ar sefyllfa eu cartref.

Gallai fod yn un o’r canlynol:

Mae datrys anghydfod yn broses lle mae pobl sy’n anghytuno neu’n gwrthdaro’n defnyddio trydydd unigolyn (cyfryngwr) i’w helpu i gyfathrebu a datrys problemau.

Rydym yn defnyddio cyfryngu i alluogi i bobl siarad yn effeithiol am broblemau a’u galluogi i ddod i gytundeb sy’n addas i’r ddwy ochr.

Pa fath o broblemau ydym ni’n delio â nhw?

Rydym yn delio ag anghydfodau y tu allan i’r llys a rhai di-drais sy’n codi rhwng teuluoedd, cymdogion, pobl ifanc, landlordiaid a thenantiaid a allai arwain at achosi i un neu  fwy o bobl fod yn ddigartref.

Pwy sy’n gymwys

Cysylltu

Rhif ffôn: 01745 345500 / 07976 769459

Tudalennau cysylltiedig