Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy (WISE)

The Wallich Centre, Cathedral Road, Cardiff, CF11 9JF

Cymru Gyfan

029 2057 4771

Prosiect cyflogadwyedd chwe mis yw Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy (WISE).

Cafodd ei gynllunio er mwyn helpu pobl i fynd i mewn i fyd gwaith, naill ai gyda’r Wallich neu gyda’n partneriaid corfforaethol yn ne Cymru.

Mae’r prosiect WISE yn rhoi’r arfau i bobl i’w galluogi i gael gwaith cynaliadwy, ystyrlon yn eu cymunedau, pa bynnag lwybr gyrfaol y maent yn ei ddewis.

Rydym yn cydnabod rôl hanfodol gwaith er mwyn cael pobl allan o’r cylch digartrefedd am byth.

seremoni raddio’n

Mae ymchwil yn dangos mai rhai o’r prif rwystrau sy’n atal pobl ddigartref neu bobl agored i niwed rhag cael gwaith yw;

67% o ddefnyddwyr gwasanaeth Wallich wedi cael swydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r rhan fwyaf eisiau gweithio ond bod arnyn nhw angen yr offer iawn a chefnogaeth i oresgyn y rhwystrau hyn.

Mae WISE yn cynnig sesiynau hyfforddi, cyfleoedd i wirfoddoli a lleoliadau gwaith yn y Wallich a gyda’n cyflogwyr corfforaethol.

Datblygwyd WISE mewn cydweithrediad â’n defnyddwyr gwasanaeth ac mae’n cynnwys hyfforddiant cyn cyflogadwyedd megis; meithrin hyder, gosod nod, sgiliau cyfathrebu, gwisgo ar gyfer gwaith a sgiliau cyfweliad.

Mae WISE hefyd yn cynnig gwasanaeth mentora, cymwysterau safonol ar gyfer diwydiant a phrofiad yn y gwaith yn ogystal â chefnogaeth drwy’r cyfnod prawf i bobl sy’n symud i waith.

Mae partneriaid corfforaethol WISE yn cynnwys: PS Group, Canolfan Dewi Sant, YMCA, Amgueddfa Gymunedol Cymru, Ffwrnes, Acorn Recruitment a llawer mwy. Rydym bob amser yn chwilio am fwy o gyflogwyr WISE. Cysylltwch â ni os gallwch gynnig cyfleoedd i’n cleientiaid.

Arwain drwy esiampl

Fel sefydliad, mae Wallich wedi ymrwymo i gyflogi pobl sydd wedi bod yn ddigartref.

Rydym wedi addo y bydd 25% o’n staff yn bobl sydd wedi cael eu cefnogi gennym yn y gorffennol neu sydd wedi cael profiad o fod yn ddigartref. Ar hyn o bryd (Hydref 2018), mae 19.52% o weithlu’r Wallich yn perthyn i’r categori hwn.

Gweler Ein Storiau am enghreifftiau o weithwyr sydd wedi llwyddo i wneud y newid hwn.

“Mae’r Wallich wedi fy nghefnogi 100%. Mae’n daith hir ond ar ôl dod drwyddi dw i’n llawer hapusach. Dw i wedi setlo mewn fflat dw i’n ei rentu’n breifat. Mae gen i blentyn a dw i’n mwynhau fy ngwaith yn Orchard. Dw i’n teimlo’n gyffrous”

– Un o raddedigion WISE Dan

Os hoffech wybod mwy am y prosiect WISE, gan gynnwys cynnig lleoliadau gwaith a rhannu eich sgiliau, cysylltwch â ni

Tudalennau cysylltiedig