Shoreline Caerdydd

27 Court Rd, Caerdydd CF11 6RZ

Caerdydd a'r Fro

Prosiect llety arbenigol sy’n darparu llety â chymorth hirdymor i oedolion digartref sydd naill ai’n ddibynnol ar alcohol neu sydd wedi cael problemau mawr ag alcohol yw Shoreline yng Nghaerdydd

Mae’r prosiect yn un “gwlyb” sy’n golygu y gall preswylwyr ddal i yfed yn y llety.

Drwy ddarparu amgylchedd diogel i’r preswylwyr a chefnogaeth staff gwybodus a phrofiadol, gall y prosiect helpu preswylwyr â’r broses o newid ac addasu eu hymddygiadau.

Mae gwneud preswylwyr yn fwy ymwybodol o’r opsiynau, y cyfleoedd a’r dewisiadau sydd ar gael iddynt yn eu galluogi i wneud dewisiadau deallus.

Mae’r opsiynau’n cynnwys yfed dan reolaeth, yfed llai neu stopio yfed – ond mae’r prosiect hefyd wedi’i gynllunio er mwyn cefnogi’r rhai hynny nad yw hyn yn opsiwn iddynt, yn y tymor hir nac yn y tymor byr.

Mae staff y prosiect hefyd yn helpu preswylwyr i roi sylw i’w hanghenion cymorth unigol, er enghraifft:

textimgblock-img

Er bod hwn yn brosiect “gwlyb” mae ethos ac athroniaeth gwaith y prosiect yn golygu bod cyfran helaeth o’r preswylwyr yn yfed llai ac yn cymedroli eu hymddygiad yfed.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Shoreline yng Nghaerdydd, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig