Gwasanaeth galw heibio yw Tŷ Croeso Wrecsam sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n profi digartrefedd a phobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau
Oriau agor
Dydd Llun i dydd Gwener – 9am-5pm
Y gwasanaethau
- Mynediad at wasanaethau atgyfeirio megis iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau
- Cymorth gyda chofrestru neu wneud apwyntiadau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol megis meddygon neu ddeintyddion
- Gwasanaethau lleihau niwed
- Mynediad at hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar wella neu gyfleoedd gwirfoddoli
- Mynediad at fanciau bwyd
- Mynediad at ffôn, cyfrifiadur a’r rhyngrwyd
- Cyngor am fynediad at dai neu am y broses o rentu llety preifat
- Cymorth gyda gwaith papur

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.
Profwyd y gall gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma helpu i’w gwella, ac rydyn ni’n trio ein gorau glas i ganfod y cymorth mwyaf addas ar eu cyfer.
I gael rhagor o wybodaeth am Dŷ Croeso Wrecsam, cysylltwch â ni.