Dr Lindsay Cordery-Bruce (Hi)

Prif Weithredwr

| 02920 668 464
Prif Weithredwr

Y bobl yr ydym yn eu cynorthwyo yw canolbwynt ein Gwaith.

Ar ôl gyrfa hir, gydag arbenigedd penodol ym maes camddefnyddio sylweddau, mae Lindsay bellach yn defnyddio ei phrofiad perthnasol i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd.

Dechreuodd Lindsay ei gyrfa fel gwirfoddolwr ar ôl bod yn ddigartref. Mae ei gyrfa wedi arwain at y pwynt hwn: Prif Weithredwr profiadol gyda doethuriaeth broffesiynol mewn Seicoleg Gymhwysol.

Yn The Wallich, Lindsay sy’n gyfrifol am oruchwylio ein strategaeth sefydliadol. Hi yw’r cyswllt tactegol rhwng rôl lywodraethu’r bwrdd a darparu gwasanaethau gweithredol.

Mae hi’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni cynllun busnes The Wallich, gan wneud yn siŵr bod y bobl rydyn ni’n eu cefnogi wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud a bod diwylliant y sefydliad yn bopeth rydyn ni eisiau iddo fod.

Mae Lindsay yn rhan o nifer o fyrddau elusennol, gan gynnwys CGGC a Tai Pawb, ac mae’n gweithio’n galed i gefnogi’r trydydd sector yn ehangach.

Mae hi’n mynychu ac yn cadeirio nifer o grwpiau a phaneli diddordeb arbennig sy’n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys Is-grŵp Datblygu’r Gweithlu, fel rhan o’r gwaith o ddarparu’r Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd.

Roedd Lindsay yn aelod allweddol o’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd ochr yn ochr â chydweithwyr yn y diwydiant fel Shelter, Crisis a Llamau.

Nid swydd yn unig yw hon, ond y rheswm dros fy modolaeth.

 

Arbenigedd

  • Arweinyddiaeth
  • Cysgu allan
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Cyfiawnder troseddol
  • Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth
  • Iechyd meddwl
  • Anghenion cymhleth
  • Allgymorth
  • Datrys anghydfodau
  • Systemau, monitro a gwerthuso
  • Gwasanaethau tendro a chomisiynu
  • Atal digartrefedd
  • Tai yn Gyntaf
  • Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod / Cymorth sy’n seiliedig ar drawma
  • Amgylcheddau sy’n Wybodus o Safbwynt Seicolegol
  • Cynhyrchu incwm
  • Ymgysylltu â’r gymuned

Tudalennau cysylltiedig