Gareth Jones

Arweinydd Gweithredol Strategol

| 02921 508 832
Rheolwr Ardal De Cymru

“Yn anffodus, mae ein cymdeithas yn mesur llwyddiant pobl drwy faint o arian maen nhw’n ei ennill, yn hytrach na’r gwaith da rydyn ni’n ei wneud a’r gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud. Fe hoffwn i feddwl fy mod i’n gwneud fy rhan i helpu fel y mae holl staff The Wallich yn ei wneud. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.”

Mae rôl bresennol Gareth fel Arweinydd Gweithredol Strategol yn cynnwys gweithio gyda llawer o bobl wych mewn prosiectau arloesol ar draws De Ddwyrain Cymru.

Ymunodd Gareth â The Wallich yn wreiddiol yn 1997 fel gwirfoddolwr cyn cael swydd dros dro fel gweithiwr prosiect yng Nghaerdydd – gan ddarparu brecwast i bobl oedd cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd. Mae’n dweud, “Mae’n dal yn un o’r swyddi gorau i mi ei gael erioed”.

Yn dilyn ei swydd dros dro gyda The Wallich, cafodd Gareth lwyth o brofiad yn Llamau fel Gweithiwr Bondiau a Chyngor, Arweinydd Tîm ac yna fel Rheolwr Ardal – yn goruchwylio amrywiaeth eang o brosiectau pobl ifanc gan gynnwys: cyngor, cyfryngu teuluol, allgymorth pendant, a phrosiectau llety â chymorth.

Yn yr hyn a oedd yn ymddangos yn gam naturiol, dychwelodd Gareth i The Wallich ar ôl 18 mlynedd o weithio gyda phobl ifanc, a gyda digartrefedd ar gynnydd eto ledled Cymru, i fod yn Rheolwr Ardal ar gyfer prif elusen digartrefedd a chysgu allan y wlad.

Mae ei gylch gwaith fel Arweinydd Gweithredol Strategol yn cynnwys rheoli Rheolwyr Ardal yn y de ddwyrain ac mae’n cynnwys gwasanaethau fel Timau Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd, llety â chymorth, gwasanaethau galw heibio a mwy.

Mae’r holl staff yn ei ardal yn gweithio i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer rhai o’r bobl sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru.

“Wrth i ni symud i’r cyfnod ar ôl y pandemig, mae’n werth nodi’r cyfraniad a wnaeth ein staff i gadw pobl yn ein cymdeithas yn ddiogel, yn aml heb y gydnabyddiaeth a’r ganmoliaeth a gafodd gweithwyr allweddol eraill.”

 

Arbenigeddau

  • Cysgu allan
  • Rheoli tai
  • Pobl ifanc
  • Allgymorth
  • Cymorth gyda thenantiaeth
  • Datrys anghydfodau
  • Cyfraith a pholisi tai
  • Atal digartrefedd
  • Cyngor ar dai

Tudalennau cysylltiedig