Tîm Ymyriadau Pobl sy’n Cysgu Allan (RSIT) Pen-y-bont ar Ogwr

10 Park St, Bridgend CF31 4AX

Pen-y-bont ar Ogwr

01656 674 184

Mae Tîm Ymyriadau Pobl sy’n Cysgu Allan Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaeth allgymorth a chanolfan alw heibio i bobl ddigartref sy’n byw ar y stryd

Mae’r tîm yn darparu nwyddau mawr eu hangen, cymorth a chyngor i bobl sy’n cysgu allan neu sy’n byw mewn llety lle maent yn agored i niwed.

Mae ein staff profiadol yn cefnogi cleientiaid drwy ddarparu brecwast, diodydd poeth, sachau cysgu, dillad cynnes, a phethau ymolchi. Maent yn helpu i ddod o hyd i ddarpariaeth leol arall drwy’r dydd a gyda’r nos.

Mae’r Tîm Ymyriadau hefyd yn helpu i ddiwallu anghenion presennol. Maent yn cynnig cyngor ar faterion amrywiol a thrwy hwyluso mynediad at y gwasanaethau mwyaf priodol, perthnasol ac arbenigol.

Bydd hyn yn cynnwys:

Mae’r tîm hefyd yn rhedeg ein canolfan alw heibio.

Mae’r Tîm Ymyriadau yn darparu amgylchedd diogel oddi ar y stryd i hwyluso ein gwaith cymorth ar ôl i ni weld rhywun yn cysgu allan yn y bore.

Yma, rydym yn cynnig mynediad at ffôn a chyfrifiadur. Hefyd, rhown gymorth i bobl sy’n ddigartref i lenwi ffurflenni, ceisiadau ac atgyfeiriadau at ein partneriaid mewn cysylltiad â’u hanghenion presennol.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig