Black and white headshot of Kerry
15/05/15

Fy enw yw Kerry Manning ac ro’n i’n arfer bod yn gleient i’r Wallich ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe ddes i fyw yng Nghymru o Ogledd Iwerddon ym mis Gorffennaf 2010 oherwydd trais domestig. Ar y dechrau ro’n i’n byw mewn llety Cymorth i Fenywod ond ar ôl saith mis cefais fy nghartref fy hun i mi a’m plant.

Roeddwn i’n unig iawn a’r plant yn byw mewn aflendid gan nad oeddwn i’n gallu fforddi addurno na phrynu pethau i’r cartref. Ro’n isel iawn a doedd gen i neb i droi ato gan nad oes gen i deulu yng Nghymru.

Yna, fe gwrddes i â dyn sydd bellach yn ŵr i mi ond fe aeth fy mywyd o ddrwg i waeth gan ei fod yn alcoholig. Dechreuais yfed gydag ef a phentyrrodd ein problemau. Roedden ni’n ymladd cymaint fel bod pobl yn galw’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau diogelwch y plant.

Roeddwn i wedi cyrraedd y gwaelod ac fe gymerais orddos – don i ddim yn gweld ffordd i ddianc o gwbl.

Yna, fues i’n lwcus cael dechrau gweithio gyda rhwydwaith gwych o bobl a oedd am fy helpu ac fe wnaethon nhw fy nghyfeirio at The Wallich ac mae fy mywyd wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Cefais weithiwr cymorth o’r tîm cymorth yn ôl y gofyn o’r enw Ashley ac fe wnaeth hi bethau anhygoel i mi. Ar un pwynt roedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi rhoi chwe mis i fi newid fy nghartref neu fe fyddai’n rhaid i’r plant fynd i ofal.

Cynorthwyodd Ashley fi i ymgeisio am fudd-daliadau a chael grantiau i gael llawr a phethau cyffredin fel cypyrddau dillad i’m plant.

Ond yn anad dim roedd hi yno i fi i wneud dim mwy na sgwrsio os oeddwn i angen sgrechian ar rywun.

Roedd hi’n daith hir ac anodd ar brydiau, yn enwedig pan ro’n i’n mynd i’r cyfarfodydd gyda’r gwasanaethau cymdeithasol. Roedd cael Ashley yno yn fendith fawr i mi a’r plant.

Yna, symudodd Ashley i brosiect arall ac ro’n i’n poeni’n arw na fyddai gen i neb i droi ato, ond doedd dim rhaid i fi boeni gan i’m gweithiwr cymorth nesaf, Shiobhan, lenwi’r bwlch yn hollol ddidrafferth.

Sicrhaodd The Wallich bod y newid o un gweithiwr cymorth i’r llall yn digwydd mor hawdd â phosibl.

Wrth i amser fynd heibio ro’n i’n teimlo’n fwy hyderus felly penderfynais y byddwn i’n hoffi gwneud gwaith gwirfoddol ac mi ges gyfle i wneud hynny yn Y Wallich. Dechreuais wirfoddoli yn y ganolfan galw heibio ddau fore’r wythnos.

Y flwyddyn ddiwethaf yw blwyddyn anoddaf fy mywyd ond yr orau hefyd. Fyddwn i byth wedi gallu ymdopi heb gymorth a chefnogaeth y tîm cymorth yn ôl y gofyn.

Does dim dwywaith mai ar y stryd fyddwn i ac fe fyddai’r plant wedi cael eu cymryd oddi wrtha i a’u rhoi mewn gofal.

Flwyddyn yn ddiweddarach dwi ddim yn gleient mwyach. Dwi’n fam sengl ond mae pethau ar i fyny i mi a’m plant.

Dwi’n gwirfoddoli dri diwrnod yr wythnos gyda’r Wallich erbyn hyn ac yn mwynhau pob munud.

Wnes i rioed ddychmygu y byddwn yn gwneud hyn, ond mae’r cymorth a’r gefnogaeth rwyf wedi’u cael gan y tîm cymorth yn ôl y gofyn wedi fy achub a’m teulu ac fe fydden i’n hoffi helpu pobl mewn amgylchiadau tebyg.

Heb gymorth a chefnogaeth y tîm cymorth yn ôl y gofyn dwi’n gwybod na fyddwn i le rydw i heddiw.

Dwi’n gallu gweld dyfodol hapus i mi a’m plant yn awr.

Mae fy hyder wedi cynyddu ddeng gwaith drosodd ac mae fy mhlant yn hapusach nag erioed diolch i’r cymorth dwi wedi’i gael. Alla i ddim diolch digon iddyn nhw.

Ac er nad ydw i’n gleient bellach, mae’r tîm yno i mi bob amser yn fy ngwthio i ddefnyddio fy nghryfderau a’m helpu i gyflawni f’amcanion.

Y cam nesaf, gobeithio, yw gweithio iddyn nhw fel ffordd o ddiolch am bopeth maen nhw wedi’i wneud i mi a’m plant a helpu teuluoedd eraill sydd yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i ynddi.