Yn The Wallich, cawsom ein llorio gan y caredigrwydd a ddangoswyd gan gymunedau ledled Cymru, yn ystod y coronafeirws.
Er bod pawb yn profi eu hanawsterau eu hunain ac yn gorfod addasu i’r normal newydd hwn, rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r effaith y mae’r pandemig hwn yn ei chael ar lesiant corfforol a meddyliol defnyddwyr ein gwasanaethau.
Gyda llawer o bobl yr ydyn ni’n eu cefnogi yn awr mewn llety, lle mae’n rhaid iddyn nhw ynysu yn eu hystafelloedd i raddau helaeth, mae arnon ni eisiau sicrhau nad oes neb yn cael ei adael i wynebu’r argyfwng hwn ar ei ben ei hun.
Os ydych chi eisiau ysgrifennu llythyr un-ffordd o’r galon, ysgrifennu nodyn bach i ddangos undod neu greu campwaith, byddem wrth ein bodd pe baech yn anfon unrhyw beth a fydd yn dod â gwên i’r sawl fyddai’n ei dderbyn.
Gellir anfon eitemau at ein gweithwyr rheng flaen a defnyddwyr ein gwasanaeth i ddangos cefnogaeth ac empathi.
Mae llythyrau i godi calon ar gael i bob un o’n 24 gwasanaeth hanfodol ledled Cymru.
Dod o hyd i gyfeiriad prosiect yn eich ardal
Byddwn yn rhannu rhai o’r eitemau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol The Wallich gyda #LlythyrauIGodiCalon.
Cadwch lygad i weld a allwch chi ddod o hyd i’ch un chi.
Bu llawer o sôn am ba mor ffodus ydyn ni, i fod yn byw mewn oes ddigidol gyda galwadau fideo ar flaenau ein bysedd ac er bod llawer o unigolion ar eu pen eu hunain, mae’r cysylltiadau rhwng ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr yn cryfhau.
Fodd bynnag, i lawer o’n defnyddwyr gwasanaeth, dydy mynediad i’r rhyngrwyd neu ddyfais ddim bob amser mor syml o’i gymharu â chartrefi eraill.
Helpwch ni i leihau unigrwydd pan fydd unigolion yn cael eu datgysylltu oddi wrth gymdeithas pan fyddan nhw ar eu pen eu hunain.
Gallwch wneud gwahaniaeth i rywun sy’n profi digartrefedd yng Nghymru.
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn.