Cymynroddion

Rhoddion mewn Ewyllysiau

Gadael cymynrodd ar gyfer dyfodol mwy disglair i rywun sy’n profi digartrefedd

Mae meddwl am beth sy’n digwydd ar ôl i ni fynd yn rhywbeth y byddai’n well gennym osgoi ei ystyried – ond gallai fod yn un o benderfyniadau pwysicaf bywyd.

Gallai eich cymynrodd chi greu dechrau newydd ym mywyd rhywun, gallai gynnig dyfodol mwy disglair a darparu llwybr allan o ddigartrefedd.

Mae gadael rhodd yn eich Ewyllys i elusen yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau y gallwn barhau i fod yno i ddarparu atebion i’r rhai sydd eu hangen.

Gall cyfraniad bychan gael effaith aruthrol a gall helpu i ddarparu dyfodol lle mae digartrefedd yn perthyn i’r gorffennol.

Gallai’ch etifeddiaeth chi helpu rhywun i ddechrau ei fywyd o’r newydd drwy gynnig dyfodol gwell a darparu ffordd allan o ddigartrefedd.

Beth fydd eich cymynrodd chi?

Dyfodol lle na fydd unrhyw un yn gorfod cysgu ar y stryd

Rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd ac arloesol i ddarparu ateb i’r nifer gynyddol o bobl sy’n cael eu gorfodi i gysgu allan.

Boed hynny’n gyflwyno rhagor o dai fforddiadwy neu wneud Ailgartrefu’n Gyflym y prif fodel yng Nghymru, gallai eich cymynrodd chi ddylanwadu ar ddyfodol lle nad oes rhaid i unrhyw un dreulio noson ar y strydoedd.

Darllenwch ein hastudiaethau achos i weld sut bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth

Ymdeimlad newydd o gymuned

Diffyg tai addas a fforddiadwy yw un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu wrth helpu pobl oddi ar y strydoedd.

Mae gennym weledigaeth i ddatblygu’r micro-bentref cyntaf yng Nghymru – cymuned o gartrefi bach cynaliadwy, hunangynhwysol lle gall pobl fyw wrth iddynt ddechrau rhoi trefn ar eu bywydau.

Gallai rhodd yn eich Ewyllys helpu i greu ymdeimlad newydd o gymuned i’r rhai sydd wedi wynebu ynysu cymdeithasol am gymaint o amser.

Torri’r cylch digartrefedd am byth

I’r rhai sy’n gallu gweithio, sicrhau cyflogaeth sefydlog â thâl yw’r llwybr gorau yn aml allan o ddigartrefedd.

Drwy gynnig cyfle i rywun ddatblygu eu hyder a’u sgiliau, gallwn eu helpu i gefnu ar ddigartrefedd am byth.

Gallai rhodd yn eich ewyllys gynnig dyfodol mwy disglair i’r rhai sydd wedi bod ar yr ymylon.

 

Creu eich Ewyllys ar-lein

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Kwil, gwasanaeth ar-lein sy’n eich galluogi i greu eich Ewyllys o’ch cartref.

Mae’r gwasanaeth ar-lein yn ddiogel, yn gyfrinachol, yn rhad ac am ddim ac mae modd ei gwblhau mewn cyn lleied â 30 munud.

Gallwch ddefnyddio’r adnodd ar-lein neu gall un o arbenigwyr Kwil eich arwain drwy’r broses.

Ysgrifennwch eich Ewyllys gyda Kwil

Gwybodaeth bellach am adael cymynrodd

Am wybodaeth bellach am sut y gallwch adael rhodd yn eich Ewyllys neu sut y bydd eich rhodd chi yn helpu’r rhai sydd ei hangen, cysylltwch â’n tîm.

E-bost: dosomething@thewallich.net

Ffoniwch: 07824 991 421

Tudalennau cysylltiedig