Llysgenhadon a Noddwyr

Sut gallwch chi fod yn Llysgennad neu’n Noddwr i The Wallich, elusen digartrefedd a chysgu allan fwyaf Cymru?

Staff mewn crysau-t porffor. Llysgenhadon

Beth yw Llysgennad elusennol?

Mae ein Llysgenhadon elusennol yn rhoi hygrededd, llais a gwelededd i genhadaeth The Wallich drwy eiriolaeth gyhoeddus ac adrodd straeon.

Prif nodweddion Llysgenhadon elusennol

Dylai Llysgenhadon Elusennol ar gyfer The Wallich fod yn:

  • Unigolion adnabyddus sydd â llawer o ddilynwyr a gwelededd
  • Lleisiau dibynadwy gyda chynulleidfaoedd sy’n rhoi sylw iddynt
  • Gallu cyfleu gwaith The Wallich mewn ffordd ddynol ar sail gwerthoedd

Beth a ddisgwylir gan Lysgennad elusennol?

  • Cysylltiad cyhoeddus â The Wallich
  • Siarad yn gadarnhaol am yr elusen mewn cyd-destunau perthnasol
  • Cefnogi digwyddiadau The Wallich, lle bo hynny’n briodol
  • Helpu i gysylltu The Wallich â chynulleidfaoedd newydd
  • Cydymffurfio â Chylch Gorchwyl Llysgennad The Wallich

Grŵp o bobl mewn dillad awyr agored ac yn cario sachau teithio mewn rhes wrth ymyl fan fach gyda’r enw Ziggy wedi'i ysgrifennu ar yr ochr mewn porffor. Yn y cefndir mae bryn gwyrdd a bryn cymylog llwyd. Yn y pen blaen mae dyn â barf lwyd a chrys-t glas, yn gwenu ar y camera.

Beth yw Noddwr elusennol?

Mae gan ein Noddwyr elusennol rôl anrhydeddus ffurfiol, uwch, sy’n cyd-fynd â’r canlynol:

  • Arweinyddiaeth gyhoeddus
  • Dylanwad ar bolisïau
  • Effaith ddeddfwriaethol neu ymgyrchu

Prif nodweddion Noddwr elusennol

  • Rôl uchel ei phroffil sy’n wynebu’r cyhoedd
  • Perthynas fwy ffurfiol â’r sefydliad
  • Diben strategol clir (e.e. polisi, deddfwriaeth, dylanwad y sector)

Beth a ddisgwylir gan Noddwr elusennol?

  • Cymeradwyaeth gyhoeddus i The Wallich
  • Rhoi ei enw ag apeliadau neu ymgyrchoedd cyhoeddus
  • Cyngor strategol neu ddylanwad o fewn paramedrau y cytunwyd arnynt
  • Eiriolaeth neu gynrychiolaeth achlysurol
  • Cydymffurfio â Chylch Gorchwyl Noddwr The Wallich

Ydych chi eisiau defnyddio eich rhwydwaith a’ch profiad er gwell?

Cofrestrwch eich diddordeb mewn bod yn Noddwr neu’n Llysgennad elusennol i The Wallich yng Nghymru.

I gael cyfarfod â’n tîm, cysylltwch â: dosomething@thewallich.net