Gwirfoddoli

Beth am roi cynnig ar fod yn wirfoddolwr a helpu i fynd i’r afael â digartrefedd

Gallwch gynorthwyo pobl sy’n ddigartref yn eich cymuned chi. Gall eich sgiliau a’ch amser chi wneud gwahaniaeth mawr

Mae gwirfoddoli gyda The Wallich yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio eich talentau presennol, datblygu sgiliau newydd, cwrdd ag amrywiaeth eang o bobl a dod yn rhan hollbwysig o’r tîm. 

Mae gwirfoddoli yn cael effaith aruthrol ar sut y gallwn gefnogi amrediad o wasanaethau. 

Heb wirfoddolwyr, ni fyddai’n bosibl i ni gyrraedd yr un nifer o bobl

Gwirfoddoli and resident at The Wallich doing art project for wellbeing

Drwy roi eich amser i bobl sy’n profi digartrefedd, byddwch yn eu helpu i ail-adeiladu eu bywydau. 

Mae gennym nifer o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli, o ddarparu brecwast i bobl sy’n cysgu allan ychydig foreau’r wythnos i’n helpu i drefnu digwyddiadau a chodi arian. 

Beth bynnag yw eich sgiliau a’ch diddordeb, byddwn yn canfod cyfle gwirfoddoli sy’n eich gweddu chi. 

Gwneud cais i fod yn wirfoddolwr heddiw

Nid oes unrhyw gyfleoedd ar gael

Os hoffech gael gwybodaeth bellach am wirfoddoli a sut i gyfrannu, cysylltwch â ni. 

E-bost: volunteer@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig