Loteri

Prynwch docyn sy’n mynd i’r afael â digartrefedd y gaeaf hwn.

Mae Loteri y Wallich yn ffordd dda o gefnogi pobl sy’n ddigartref yn eich cymuned chi. 

Cofrestrwch ar gyfer loteri’r Wallich i gael cyfle i ennill £25,000

Mae Loteri’r Wallich yn ffordd dda o gefnogi pobl sy’n ddigartref yn eich cymuned chi.

Am ddim ond £1 am docyn, bydd cyfle i chi ennill £25,000 yn ogystal â llawer o wobrau eraill bob wythnos.

Sut i chwarae

Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael rhif chwe digid. Y rheiny fydd eich rhifau personol chi am gyhyd ag y byddwch yn penderfynu chwarae.

Mae’r rhif chwe digid buddugol yn cael ei dynnu allan o’r het bob dydd Gwener. Er mwyn ennill gwobr, bydd angen i chi gael:

Chwe digid yn y lle cywir: ennill £25,000

Pum digid yn y lle cywir: ennill £1,000

Pedwar digid yn y lle cywir: ennill £25

Tri digid yn y lle cywir ennill: 5 tocyn yn y raffl nesaf

Bydd siawns o 1 mewn 63 i bob tocyn £1 ennill gwobr.

I gael rhagor o fanylion, ewch i gwefan Unity Lottery

Sut gall chwarae’r loteri wneud gwahaniaeth

Un tocyn: £1 yr wythnos = £4.34*

Gallai un tocyn yn y loteri roi cymorth i newid bywyd rhywun sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref:

*34c yw’r gost ychwanegol am fis pum wythnos

 

STORI ANNA

“Rydw i’n berson gwahanol erbyn hyn. Dydw i ddim yn y gwaelod isaf. Rydw i’n byw fy mywyd. Rydw i’n teimlo’n gyfan.

textimgblock-img

Rwy’n codi yn y bore ac weithiau rydw i’n hapus. Dro arall dydw i ddim, ond rydw i’n cyrraedd yno yn y pen draw drwy feddwl yn bositif.

Rydw i wedi mynd o fod heb gynlluniau o gwbl, ar wahân i oroesi, a ddim yn gwneud unrhyw beth gyda’m bywyd, i fod eisiau newid y byd.”

Darllenwch stori Anna

Drwy chwarae ein loteri byddwch yn helpu i ariannu gwasanaethau rheng flaen arloesol a darparu cymorth tymor hir i bobl sy’n ddigartref ledled Cymru.

Ac yn fwy na hynny, byddwch yn rhan o gymuned o bobl sydd wedi ymrwymo i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd am byth.

Darllenwch y telerau ac amodau

Os rydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch chwilio am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr proffesiynol ar GambleAware drwy ffonio 0808 8020 133 am ddim neu fynd ar y wefan www.gambleaware.co.uk

Tudalennau cysylltiedig