Stori Anna

09 Sep 2021

Mae Anna wedi cael ei chefnogi gan brosiect Cymorth Tenantiaeth Torfaen The Wallich a’r Reflections Network ers 2018

O dderbyn cefnogaeth llety i wasanaethau cwnsela, cewch wybod sut mae agwedd gadarnhaol a mynediad at y bobl iawn wedi gweddnewid bywyd Anna.

GWYLIWCH DOROTHY YN ADRODD EI HANES

Dyma hanes Anna

Bywyd cyn The Wallich

“Cyn dod i The Wallich, roeddwn i ar goll ac yn unig.

Roeddwn i wedi cyrraedd y gwaelod isaf.

Doeddwn i ddim yn byw i raddau, dim ond bodoli.”

Cymorth gan wasanaeth Cymorth Tenantiaeth Torfaen

“Roedd fy ngweithiwr cymorth, Alys, yn agored ac yn onest a doedd hi ddim yn fy marnu o gwbl.

Roeddwn i’n cael fy nhroi allan ar y pryd.

Fe helpodd fi i gael to uwch fy mhen. Doedd pethau ddim yn hawdd, nid fi oedd y person gorau i rentu rywle iddi.

Roedd gen i filoedd o bunnoedd o ôl-ddyledion rhent. Cafodd fy mhlant eu cymryd oddi arna i ac roedd yn rhaid i mi dalu treth ystafell wely a doeddwn i ddim yn gallu fforddio hynny.

Doedd neb yn fodlon fy helpu i, ond fe wnaeth Alys ei gora i ddod o hyd i rywle i mi allu ei alw’n gartref. Mae gen i rywle erbyn hyn ac rydw i’n hapus iawn.

Mae’r bobl sydd wedi bod yn fy nghefnogi a rhentu’r eiddo i mi yn hapus dros ben, gan fy mod wedi newid fy mywyd er gwell.

Daethom i benderfyniad o feddwl am drefniadau newydd lle byddwn i’n rhoi ychydig bach o arian ychwanegol iddyn nhw, rhag ofn i unrhyw beth fynd o’i le, fel nad oeddwn i’n gymaint o risg.

Cwnsela gyda’r Reflections Network

“Mae Steph, fy nghwnselydd, wel…beth allai ddweud?. Mae hi’n anhygoel, hi yw’r cwnselydd gorau i mi ei gael erioed.

Roedd hi’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi, ac roedd hi’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n cael fy neall.

Os nad ydych chi’n cael eich barnu, ac os ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a’ch deall, gallwch ddweud wrth y cwnselydd beth nad ydych chi erioed wedi’i ddweud wrth neb o’r blaen.

Ar ôl i chi ddweud wrthyn nhw, gallwch ddechrau dod o hyd i’r atebion.

Mae hi wedi bod yn daith galed iawn i mi, ond o’r amser pan ddechreuais i siarad â Steph, hyd at heddiw, mae gymaint o bethau wedi newid yn fy mywyd. Rydw i’n berson gwbl wahanol.

textimgblock-img

Mae Steph wedi fy helpu i oresgyn problemau rydw i wedi’u hwynebu ers fy mhlentyndod, rhai nad oeddwn i erioed wedi’u deall o’r blaen.

Rwy’n eu deall nhw bellach ac rwyf wedi’u goresgyn.

Steph wedi fy helpu i ddod yn berson cyfan. Mae hi wedi rhoi holl ddarnau’r jig-so at ei gilydd o’r diwedd, ac o’r diwedd rwy’n teimlo’n gyfan.

Rydw i wedi bod yn cymryd Quetiapine ers chwe blynedd o bosibl, o’r adeg y ces i ddiagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol.

Ond ers y gefnogaeth gan Alys, a’r sgyrsiau gyda Steph, rydw i wedi llwyddo haneru’r feddyginiaeth rwy’n ei chymryd.

Roeddwn i’n defnyddio canabis yn aml i ‘hunan-feddyginiaethu’.

Rydw i nawr wedi mwy na haneru faint o ganabis rwy’n ei ddefnyddio.

Rydyn ni’n ceisio rhoi diwedd ar fy nefnydd o ganabis, ond rwy’n ei gweld hi’n anodd gan fy mod wedi ‘hunan-feddyginiaethu’ ers 30 mlynedd. Ond rydw i wedi sylweddoli bellach nad ydw i ei angen gan fy mod yn byw bywyd cadarnhaol.

Rwy’n gwybod sut i ddelio â’r man bethau sy’n digwydd i mi, ac mae gen i well reolaeth dros fy emosiynau.

Mae gen i ychydig o awgrymiadau a thriciau erbyn hyn y gallaf eu defnyddio i sicrhau nad yw’r emosiynau hynny’n cael y gorau ohona i.”

Byw bywyd cadarnhaol

“Rydw i bellach yn byw mewn fflat un ystafell, ac am y tro cyntaf erioed, mae’n lân ac yn daclus.

Pe bai chi wedi gweld y llefydd roeddwn i’n byw ynddynt gynt, wel, byddech chi wedi cael sioc; ond doedd fy iechyd meddwl ddim ar ei orau bryd hynny.

Ydych chi wedi clywed am y dywediad, ‘tidy house tidy mind’? Roeddwn i’n meddwl mai llwyth o nonsens oedd hynny, ond erbyn hyn, rydw i wedi sylweddoli bod hyn yn hollol wir, credwch chi fi.

Mae fy sefyllfa ariannol bellach dan reolaeth. Dydw i ddim yn graig o arian o bell ffordd, ond dydw i ddim yn teimlo mor dlawd ag yr oeddwn i ers talwm.

Dim ond budd-daliadau yn unig rwy’n eu cael o hyd, ond rydw i’n dechrau teimlo’n gyfoethocach tu mewn, ac ychydig yn fwy bodlon.

Rwy’n berson gwahanol erbyn hyn.

Dydw i ddim ar y gwaelod isaf. Rwy’n byw fy mywyd. Rwy’n teimlo’n gyfan.

Ambell ddiwrnod rwy’n codi yn y bore ac yn teimlo’n hapus. Ambell ddiwrnod rwy’n teimlo’n isel, ond mae’n rhyfeddol faint o effaith gall meddylfryd cadarnhaol gael ar hwyliau rhywun.

Rydw i nawr yn uniaethu â phopeth positif oherwydd mae’n hawdd iawn bod yn gadarnhaol wrth wneud hynny.

Os ydych chi’n amgylchynu eich hun â gwenwyndra, bydd yn eich gwenwyno ac yn eich troi’n wenwynig.

Felly, fe ddaw eto haul ar fryn, dim ond i chi feddwl ac aros yn bositif.”

Gwneud cynlluniau uchelgeisiol

“O fod yn rhywun heb unrhyw gynlluniau, ar wahân i oroesi a gwastraffu fy mywyd, rydw i bellach eisiau newid y byd.

Gallaf weld bod pethau yn y byd angen eu newid.

Rydw i wedi cael fy stigmateiddio, fy ngham-drin ac wedi teimlo’n dlawd. Rydw i wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar adegau.

Fe wnes i ddeall fod helpu eraill yn fodd o helpu fi fy hun hefyd. Rydw i’n mynd i rannu stori fy mywyd, ac mae hi’n stori a hanner.

Ond does gen i ddim ofn rhagor. Does gen i ddim ofn bod yn fi fy hun.

Dysgais gan fy mhlant nad yw pobl hapus yn bwlio, oherwydd os ydych chi’n hapus, rydych chi eisiau gweld pobl eraill yn hapus hefyd.”

Darganfyddwch ragor am ein Cymorth Tenantiaeth Torfaen wasanaeth a’r Reflections Network

Tudalennau cysylltiedig