Corfforaethol
Mae partneriaethau corfforaethol yn hanfodol er mwyn gwneud ein gwaith yn bosibl

Drwy weithio mewn partneriaeth gyda ni, gall eich sefydliad helpu i greu newid ystyrlon, hirdymor.
Drwy drawsnewid bywydau unigolion, ond hefyd drwy gryfhau cymunedau ledled Cymru.
Bob blwyddyn, rydym ni’n cefnogi dros 7,000 o bobl.
Y tu ôl i bob ystadegyn mae person go iawn sy’n wynebu ansicrwydd, unigrwydd, a cholli lle diogel i’w alw’n gartref.
O ddarparu gwasanaethau allgymorth a llety â chymorth, i raglenni arbenigol sy’n magu sgiliau, hyder, ac ymdeimlad newydd o bwrpas, rydym ni ar gael i bwy bynnag sydd ein hangen ni, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain.
P’un a ydych chi’n codi arian, yn gwirfoddoli, yn noddi neu’n cydweithio’n strategol, mae eich cefnogaeth chi’n ein galluogi ni i gyrraedd mwy o bobl, ymateb i anghenion brys, a darparu atebion arloesol i ddigartrefedd.
Gyda’n gilydd, gallwn fynd i’r afael â digartrefedd.
Pam gweithio mewn partneriaeth gyda ni
Mae gweithio mewn partneriaeth gyda ni yn fwy na chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.
Mae’n ffordd ystyrlon o fuddsoddi yn eich cymuned leol a chreu newid hirdymor.
Cael effaith go iawn
Rhoi cefnogaeth uniongyrchol i wasanaethau sy’n newid bywydau pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru.
Ymgysylltu â’ch gweithwyr
Ysbrydoli a chymell timau drwy fentrau pwrpasol.
Cryfhau eich brand
Dangos ymrwymiad clir a gwirioneddol i effaith gymdeithasol.
Cyfleoedd hyblyg
Cyfleoedd wedi’u teilwra sy’n cyd-fynd â nodau eich busnes.
Effaith dryloyw
Gweld a rhannu’r gwahaniaeth mae eich cefnogaeth chi’n ei wneud.
Mathau o Bartneriaethau
Mae pob sefydliad yn wahanol, ac felly hefyd bob partneriaeth.
Yn The Wallich, rydym ni’n cymryd amser i ddeall amcanion eich busnes ac yn creu partneriaeth bwrpasol sy’n addas i chi, ac yn ein helpu ninnau i fynd i’r afael â digartrefedd ledled Cymru.
Partneriaethau codi arian
Codi arian yw un o’r ffyrdd mwyaf pwerus ac effeithiol o gefnogi gwaith The Wallich gan hefyd ddod â’ch timau ynghyd.
O weithgareddau syml yn y swyddfa (fel gwerthu cacennau a chynnal cwis), i fentrau mwy (fel heriau noddedig, digwyddiadau chwaraeon ac ymgyrchoedd ar draws y cwmni cyfan), mae’r cyfleoedd i gymryd rhan yn ddiddiwedd.
Bydd ein tîm yn eich cefnogi ar bob cam gyda syniadau, adnoddau ac arweiniad i’ch helpu i gael yr effaith fwyaf bosibl.
Buddion i’ch busnes:
- Meithrin ymdeimlad o dîm a chryfhau diwylliant y gweithle
- Cynyddu ymgysylltiad a llesiant gweithwyr
- Dangos ymrwymiad gweladwy i effaith gymdeithasol
Beth bynnag y byddwch yn dewis ei wneud, bydd pob punt a godir yn helpu i newid bywydau.

Elusen y flwyddyn
Mae partneriaeth Elusen y Flwyddyn yn cynnig cyfle i feithrin perthynas ddyfnach a mwy strategol gyda The Wallich.
Mae’r math yma o bartneriaeth yn eich galluogi i ymwreiddio effaith gymdeithasol yn eich busnes dros gyfnod hwy, gan greu buddion hirdymor ar gyfer eich sefydliad a’r bobl rydym ni’n eu cefnogi.
Gallwch ddisgwyl:
- Rheolwr perthynas penodol
- Gwella enw da’r brand
- Adroddiadau effaith a straeon i’w rhannu gyda rhanddeiliaid
- Cyfle i ymgysylltu ar draws y cwmni
- Adeiladu tîm
- Rhwydweithio a thyfu’r busnes
Gyda’n gilydd, gallwn greu partneriaeth sy’n cyflawni newid gwirioneddol a mesuradwy.
Gwirfoddoli corfforaethol
Creu profiadau ystyrlon ar gyfer eich timau gan hefyd gyflawni effaith weladwy ar draws ein gwasanaethau.
Mae’n ffordd ymarferol ac effeithiol o gefnogi eich cymuned leol gan hefyd ddangos ymrwymiad eich sefydliad i werth cymdeithasol.
O weithgareddau ymarferol, fel prosiectau gweddnewid a pharatoi bwyd, i gyfleoedd sy’n seiliedig ar sgiliau, fel gweithdai llunio CV a sesiynau dysgu dros ginio.
Gall eich tîm gymryd rhan mewn sawl ffordd.
Buddion i’ch busnes:
- Datblygu staff a chyfleoedd newydd i feithrin sgiliau
- Gwella llesiant a boddhad yn y swydd
- Cryfhau cysylltiadau o fewn y tîm
Dealltwriaeth ddyfnach o wasanaethau cefnogi digartrefedd

Cyfleoedd noddi
Cefnogi gwasanaeth neu fenter benodol a gweld eich effaith dros eich hun.
Boed hynny’n golygu bod yn brif noddwr gweithgareddau symudol The Wallich a helpu i ddarparu cymorth ym mhob cwr o Gymru, neu noddi’r Celfyddydau Creadigol a helpu rhywun i ail-ysgrifennu ei stori.
Gellir teilwra ein pecynnau noddi corfforaethol i weddu i’ch busnes a’ch cyllideb chi.
Buddion i’ch busnes:
- Cyswllt uniongyrchol gydag effaith ystyrlon a gweladwy
- Sylw cadarnhaol i’ch brand a chyfleoedd i adrodd straeon
- Aliniad cryf gyda gwerthoedd a dibenion corfforaethol
Canlyniadau diriaethol y gallwch eu rhannu gyda rhanddeiliaid

Rhoddion corfforaethol / Cymorth mewn nwyddau
Darparu eitemau hanfodol sy’n gwneud gwahaniaeth ar unwaith.
O hanfodion bob dydd i eitemau mwy ar gyfer ein gwasanaethau llety.
Gall eich rhoddion ein helpu i ddarparu amgylcheddau diogel a chyfforddus a diwallu anghenion uniongyrchol ar gyfer pobl sy’n profi digartrefedd.
Mae enghreifftiau o roddion mewn nwyddau’n cynnwys:
- Matresi, dillad gwely a dodrefn ar gyfer llety â chymorth
- Dillad a nwyddau ymolchi ar gyfer unigolion mewn argyfwng
- Bwyd a chynhwysion i gefnogi prydau bwyd wythnosol
- Nwyddau i’r cartref i helpu pobl i ymgartrefu mewn cartrefi newydd
Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi’r eitemau y mae eu hangen fwyaf ac yn sicrhau bod eich rhoddion yn cael eu defnyddio lle byddant yn cael yr effaith fwyaf.
Gallwch ddisgwyl:
- Canllawiau clir ar eitemau blaenoriaeth a gofynion ar gyfer rhoddion
- Diweddariadau ar effaith eich cyfraniad
Cydnabyddiaeth o’ch cymorth (lle bo’n briodol)

Bwydlenni sy’n bwysig (Partneriaid Lletygarwch)
Ydych chi’n gweithio ym maes lletygarwch? Yn berchen ar far, bwyty neu gaffi?
Gallwch gefnogi pobl sy’n profi digartrefedd trwy eich busnes gyda’n haddewid Bwydlenni sy’n Bwysig.
Drwy roi cyfran o bris eitemau dethol ar y fwydlen yn rhodd, gallwch drawsnewid pryniannau bob dydd yn newid ystyrlon.
Dim ots faint rydych chi’n ei roi, mae eich cefnogaeth yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru.
Buddion i’ch busnes:
- Cynnwys eich cwsmeriaid yn eich gwaith effaith gymdeithasol
- Gwella gwerthoedd y brand a ffyddlondeb cwsmeriaid
- Gwneud y weithred o roi’n rhan o weithgarwch bob dydd y busnes
- Dangos ymrwymiad cymunedol mewn modd ystyrlon

Rhoi drwy’r gyflogres
Trowch eich diwrnod cyflog yn gyfle i roi rhywbeth yn ôl.
Mae rhoi drwy’r gyflogres yn ffordd syml ac effeithlon o ran treth i weithwyr wneud rhoddion rheolaidd yn uniongyrchol o’u cyflogau.
Mae’n ffordd hawdd o gefnogi pobl sy’n profi digartrefedd a chael effaith hirdymor ar y cyd ar draws eich gweithlu.

Y gwahaniaeth y gall eich busnes ei wneud
Mae eich Partneriaeth yn ein helpu i weithio tuag at ein cenhadaeth:
- Cael pobl oddi ar y strydoedd
- Cadw pobl oddi ar y strydoedd
- Creu cyfleoedd i bobl
Rydym ni’n arbenigo mewn cefnogi’r rhai sy’n aml yn cael eu heithrio o wasanaethau eraill ac sy’n wynebu heriau wrth gael mynediad at dai neu gynnal a chadw tai.
Mae ein dull yn canolbwyntio ar atebion hirdymor. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phobl i’w helpu i adeiladu bywydau mwy diogel, hapusach a mwy annibynnol.
Effaith wirioineddol
Trwy godi arian hanfodol, gallai eich busnes helpu rhywun fel Kerry
Llwyddodd Kerry i gymryd cam dewr a dianc o berthynas dreisgar.
Gydag anogaeth, cymorth a thrwy fagu hyder gyda The Wallich, mae hi wedi dechrau bywyd newydd.
“Dwi’n falch oherwydd dydw i ddim yn meddwl y byddwn wedi gallu cyrraedd lle rydw i nawr heb The Wallich. Dydw i ddim yn credu y byddwn wedi goroesi. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi byw a dweud y gwir.”
Mae eich partneriaeth yn gwneud straeon fel un Kerry yn bosibl.
Ein cefnogwyr
Rydym ni’n falch o weithio ochr yn ochr â rhwydwaith gynyddol o bartneriaid corfforaethol sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru.
Cymerwch ran
Ymunwch â ni i greu dyfodol lle nad oes rhaid i neb wynebu digartrefedd ar ei ben ei hun.
E-bost: corporate@thewallich.net
