Syndicet y Rheng Flaen

Un o’r materion pwysicaf sy’n ein hwynebu fel cymuned yw sut rydym yn mynd i’r afael â’r cynnydd o ran cysgu allan a digartrefedd ar y stryd

Mae ein gwasanaethau allgymorth ac atebion yn gweithio mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, gan ddarparu cymorth ymarferol mewn argyfwng gyda dillad gwely, dillad sy’n dal dŵr, bwyd, cyngor ar dai a budd-daliadau, a gwasanaethau atgyfeirio gofal iechyd.

Homelessness charity the Wallich launch a new fleet of ' Street Fleet' Vehicles across Wales

Dyma ein Rheng flaen, ac rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni.

Mae Syndicet y Rheng Flaen yn grŵp o fusnesau sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â digartrefedd ar y stryd a chysgu allan yn ein cymunedau ledled Cymru.

Bydd eich rhoddion yn cefnogi gwaith ein timau allgymorth ac atebion, ac yn creu cronfa wedi’i chlustnodi i ddarparu eitemau hanfodol i bobl sy’n ddigartref pan fydd arnynt eu hangen fwyaf.

textimgblock-img
  • Gallai £250 brynu 10 sach gysgu
  • Gallai £500 dalu am fwyd am fis ar gyfer un o’n Canolfannau Atebion
  • Gallai £1,000 ddarparu 20 o gotiau trwm sy’n dal dŵr
textimgblock-img

Sicrhewch eich lle ar y Rheng flaen.

  • Cydnabyddiaeth fel cefnogwr Rheng flaen ar ein gwefan
  • Digwyddiadau a diweddariadau chwarterol
  • Cyfle i godi arian ychwanegol drwy ein digwyddiadau her
  • Cyfleoedd i wirfoddoli

Cysylltwch â’n tîm – corporate@thewallich.net