Codi arian
Cynlluniwch eich digwyddiad eich hun neu cymerwch ran mewn un rydym ni wedi’i drefnu. Gallwch gymryd rhan mewn cannoedd o ffyrdd gwahanol a chefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud.
Mae ein tîm codi arian yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
DEWISWCH EICH TAITH CODI ARIAN
Gwna dy beth
Mae The Wallich wedi lansio ffordd newydd i gefnogwyr gymryd rhan yn yr ymgyrch i roi diwedd ar ddigartrefedd – ac mae’n galw ar bobl Cymru i fynd ati i wneyd ‘dy beth’ a dathlu pŵer unigoliaeth.
Calendr digwyddiadau
Marathonau, rasys 10k a rhagor o weithgareddau corfforol. Cymerwch olwg ar ein calendr o ddigwyddiadau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol.
Ysgolion a cholegau
Gweithgareddau codi arian hwyliog, cyffrous ac oed briodol ar gyfer eich disgyblion.
Grwpiau cymunedol
Dewch â’ch grŵp ffydd neu gymdeithasol at ei gilydd ar gyfer cwis, i werthu cacennau neu gyngerdd i godi arian ar ran elusen.
Gwneud eich rhodd
Os ydych chi wedi codi swm hael o arian i elusen, dyma sut mae ei dalu i mewn.
EasyFundraising
Codwch arian am ddim ar gyfer The Wallich bob tro y byddwch chi’n siopa ar-lein gan ddefnyddio EasyFundraising.
Bydd dros 8,000 o adwerthwyr yn rhoi gan gynnwys yr holl enwau adnabyddus fel eBay, Tesco, Expedia, M&S, Just Eat, Argos, Trainline, Travelodge, Uswitch a mwy. Pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth drwy Easy Fundraising, bydd y brandiau hyn yn rhoi rhodd am ddim i ni, heb i chi gael cost ychwanegol.
Rhagor o wybodaeth
Mae ein tîm codi arian cyfeillgar wrth law bob amser i gynnig help ac arweiniad
Cysylltwch â Thîm Codi Arian Wallich
E-bost: dosomething@thewallich.net
Ffôn: 02920 668 464