Arloesi

Paratoi ffordd ar gyfer arloesi mewn gwasanaethau digartrefedd

Mae The Wallich yn falch o fod yn sefydliad arloesol sy’n herio’r sefyllfa bresennol ac sy’n arloesi gyda dulliau newydd i wneud bywyd yn well i bobl sy’n profi digartrefedd.

Llwyddiant ein cenhadaeth yw: cael pobl oddi ar strydoedd, cadw pobl oddi ar y strydoedd a chreu cyfleoedd i bobl ailadeiladu eu bywydau, yn dibynnu ar y prosiectau arloesol yr ydym yn eu cynnig drwy Gymru.

Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gweithio i greu Cymru lle mae pobl yn sefyll gyda’i gilydd i ddarparu gobaith, cymorth ac atebion er mwyn roi terfyn ar ddigartrefedd.