Y Rhwydwaith Myfyrio

Y Rhwydwaith Myfyrio

Rhwydwaith o gwnselwyr hyfforddedig i helpu ein defnyddwyr gwasanaeth i ddelio â’r trawma

Beth yw’r Rhwydwaith Myfyrio?

Mae’r Rhwydwaith Myfyrio yn wasanaeth cwnsela, wedi’i greu a’i ddylunio pan sylweddolom ein bod yn ymateb yn bennaf i bryderon ac ymddygiad o ddydd i ddydd, yn hytrach na mynd at yr achosion sylfaenol.

Yn aml, gall fod yn broses hynod o heriol neu hir i’n cleientiaid gael gafael ar wasanaeth cwnsela, felly fe wnaethom greu ein gwasanaeth pwrpasol ein hunain i ddarparu ar gyfer hyn.

Mae’r Rhwydwaith Myfyrio yn wasanaeth adweithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth The Wallich a’i nod yw cysylltu pobl â chwnselydd o fewn 28 diwrnod i gael eu cyfeirio.

Nid oes cyfyngiad amser ar y sesiynau ac mae dull integreiddiol yn cael ei ddefnyddio gan fod pob person yn wahanol, ac ni fydd un ateb yn addas i bawb.

Mae gennym dîm o 10 o gwnselwyr sy’n gweithio ym mhob maes lle’r ydym yn gweithio yng Nghymru.

Mae cwnselwyr yn deall trawma a seicoleg, er mwyn cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth orau.

Prif fanteision cwnsela

Mae cwnsela gyda gweithiwr proffesiynol niwtral yn galluogi pobl i rannu agweddau anodd ar eu bywydau heb ofni cael eu barnu na chael eu labelu.

Gall y pynciau hyn fod yn bethau sydd heb gael eu trafod o’r blaen, sydd wedi bod yn anodd iawn eu cadw i’w hunain am gyfnodau hir.

Mae’n mynd i’r afael â thrawma sydd wedi cael effaith negyddol ar fywyd rhywun.

Mae cwnsela yn gyfle i archwilio digwyddiadau yn y gorffennol a’r presennol, er mwyn deall a phrosesu yr hyn sydd wedi digwydd yn well.

Rydym yn credu, drwy’r broses hon, y gall yr unigolyn gyflawni newidiadau sylweddol a chadarnhaol a pharhaol.


Ymunwch â’n Rhwydwaith Cwnselwyr

Allech chi ddarparu gwasanaeth cwnsela hanfodol i ddefnyddwyr gwasanaeth ein helusen?

Rydym yn wasanaeth ledled Cymru sydd bob amser yn chwilio am gwnselwyr cyflogedig i ymuno â’n rhwydwaith.

Caiff ein cwnselwyr eu cefnogi gan Rheolwr y Rhwydwaith Myfyrio.

Darparu gwasanaeth cwnsela sy’n seiliedig ar drawma i bobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd, sefyllfa ansicr o ran cartref, defnyddio sylweddau, perthynas yn chwalu, iechyd meddwl a’r system cyfiawnder troseddol.

Y swydd

Ardaloedd sydd â swyddi gwag ar hyn o bryd

Fodd bynnag, rydym yn derbyn cofrestriadau o bob rhan o Gymru.

Gofynion

Cofrestrwch eich diddordeb i fod yn gwnselydd y Rhwydwaith Myfyrio heddiw

textimgblock-img

I gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at i drefnu cyfarfod at reflections.network@thewallich.net

Yn anffodus, ni allwn gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd ar leoliad dysgu

Gofrestru eich diddordeb

Ni fyddai’r Rhwydwaith Myfyrio yn bosibl oni bai am Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a Sefydliad Moondance


Cyflawniadau allweddol

Ers lansio’r Rhwydwaith Myfyrio ym mis Mawrth 2019, hyd at fis Mawrth 2021, rydym wedi hwyluso 5,356 o apwyntiadau cwnsela ar gyfer 573 o bobl.

Yn ystod cyfnod prysuraf cyfyngiadau symud COVID-19 yn 2020, roedd 117 o bobl a fyddai fel arall wedi cael eu heithrio wedi cael galwad ffôn gan gwnselydd o fewn 24 awr – weithiau ar yr un diwrnod neu hyd yn oed o fewn yr awr.

Mae’r Rhwydwaith Myfyrio yn hyblyg ac yn addasadwy iawn. Rydyn ni’n gwneud newidiadau cyson i’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu er mwyn gwella hygyrchedd i’r holl bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

I gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â Reflections.Network@thewallich.net

Dim ond i bobl sy’n rhyngweithio â gwasanaethau The Wallich y mae’r Rhwydwaith Myfyrio ar gael.

Tudalennau cysylltiedig