Streetlink

Cynnig gwasanaethau sy’n gallu helpu pobl ddigartref

Mae StreetLink yn wefan, ap symudol a llinell ffôn y gall y cyhoedd a phobl ddigartref ei ddefnyddio

Poeni am rywun sy’n cysgu allan?

Defnyddiwch y gwasanaeth i roi gwybod i awdurdodau lleol a gwasanaethau allgymorth ar strydoedd Cymru a Lloegr am unrhyw un sy’n cysgu allan.

Ar ôl rhoi gwybod i StreetLink, bydd yr wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’r gwasanaethau priodol a bydd gweithiwr proffesiynol yn ymweld â’r person sy’n cysgu allan er mwyn ei helpu.

Drwy’r gwasanaeth hwn gall y cyhoedd wneud rhywbeth i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd. Dyma’r cam gyntaf at wneud yn siŵr bod y bobl sydd ar y stryd yn gallu cael eu cysylltu â’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.

 www.streetlink.org.uk
mobile Lawrlwythwch yr ap StreetLink drwy Apple Store neu Google Play.
phone 0300 500 0914

Pam fod StreetLink yn bwysig?

Os ydych chi’n poeni am rywun sy’n cysgu allan, mae StreetLink yn ffordd hawdd ac effeithiol o gymryd camau cadarnhaol.

Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw gwasanaethau lleol yn gwybod am rai pobl sy’n cysgu allan, ac nid yw pawb sy’n cysgu allan yn gwybod bod cymorth ar gael iddyn nhw – nid yw tua 50% o bobl sy’n newydd i gysgu allan wedi ceisio chwilio am gyngor neu gymorth.

Mae angen eich help chi ar awdurdodau lleol a’r elusennau ac asiantaethau cymorth priodol i gysylltu â’r bobl sy’n agored i niwed yn eich ardal chi.

Gall fod yn anodd i’r cyhoedd wybod beth i’w wneud am ddigartrefedd. Wrth i’r mater ddod yn fwy amlwg, rydyn ni angen gweithio gyda’n gilydd i helpu pobl ddigartref a phobl sy’n agored i niwed i gael y cymorth sy’n gweithio iddyn nhw.

Ydych chi’n cysgu allan?

Os ydych chi’n cysgu allan, gallwch ddefnyddio StreetLink i roi gwybod i awdurdod lleol a derbyn ymweliad gan un o’u staff allgymorth. Ond, gallwch hefyd ymweld yn uniongyrchol â’ch tîm Opsiynau Tai lleol.

Mae Wallich yn helpu i hyrwyddo StreetLink yng Nghymru.

Tudalennau cysylltiedig