Ymgyrchoedd

Ydych chi’n frwd dros wneud newid gwirioneddol a pharhaol i bobl y mae materion cymdeithasol fel digartrefedd, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu gyfiawnder troseddol yn effeithio arnynt?

Os felly, cymerwch gip ar ein hymgyrchoedd diweddaraf sy’n herio’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol i leihau niwed a gwella ansawdd bywyd y bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Darllenwch, dysgwch a chymerwch ran heddiw.

08 Dec 2022

Gohirio Iechyd Meddwl

Mae’r argyfwng iechyd meddwl yn cael effaith anghymesur ar bobl sy’n ddigartref. Mae’r Wallich yn lansio ymgyrch newydd sy’n edrych ar dirwedd lle mae iechyd meddwl mewn argyfwng, digartrefedd a defnyddio sylweddau yn digwydd ar y cyd yng Nghymru.