Mae toriad cyllid mewn termau real yn golygu rhewi cyflogau staff digartrefedd hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw

Rydym wedi ysgrifennu llythyr brys at Weinidogion yn gofyn iddynt ailystyried rhewi’r cyllid.
Yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru am 2023/24, cyfanswm y gyllideb Grant Cymorth Tai (HSG) i holl awdurdodau Cymru yw £166m.
Oherwydd chwyddiant, mewn termau real mae hyn yn doriad i’r cyllid presennol.
Beth y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol:
- Mae’r mwyafrif llethol o’n gwasanaethau ar draws Cymru’n cael eu comisiynu gan awdurdodau lleol a’u hariannu gan y Grant Cymorth Tai (HSG).
- Y flwyddyn nesaf, mae cyflogau gweithwyr cymorth tai prosiectau HSG yn debygol o gael eu rhewi – gyda thoriad mewn termau real i’w cyflogau – yng nghanol argyfwng costau byw.
- Yr unig ffordd gynaliadwy o godi cyflogau mewn termau real yw drwy gynyddu cyllid yr HSG.
Rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a’r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd yn nodi ein pryderon.
Rydym yn gobeithio y bydd y materion a godir yn y llythyr yn eu cymell i ystyried natur hanfodol y gwaith a wnawn a bod angen gwobrwyo staff cymorth yn deg am ein cyfraniadau i gymunedau ledled Cymru.