Datblygwch eich gyrfa gyda The Wallich, y brif elusen digartrefedd yng Nghymru, heddiw.
Dechreuwch eich cais heddiw a gwneud gwahaniaeth i bobl ddigartref
Sylwer: Oherwydd sefyllfa barhaus y Coronafeirws,rydyn ni’n cynnal cyfweliadau drwy alwadau fideo ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i adolygu’r mater hwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â recruitment@thewallich.net
Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig sy’n awyddus i weithio gyda rhai o aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas tra’n byw ein gwerthoedd o ddewrder, penderfyniad, dilysrwydd, tosturi a dealltwriaeth.
cyflog cystadleuol
sefydliad cynhwysfawr a sesiynau cynefino lleol
mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu
gwyliau blynyddol hael.
Rhaid i bob aelod newydd o staff fynd i sesiwn gynefino yng Nghaerdydd. Telir yr holl dreuliau ac mae’n para hyd at bum diwrnod, yn dibynnu ar y swydd. Cynhelir sesiynau cynefino yn ystod wythnos lawn gyntaf bob mis calendr.