Astudiaethau achos

Yn y Wallich, rydym yn ceisio am gynhwysiant a derbyniad ar gyfer y rhai hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigartrefedd. Nid yw o bwys faint o weithiau mae rhywun yn dod atom am help, byddwn bob amser yn gwrando, bod yn empathig a’u cyfarch gyda charedigrwydd.

Mae ein grŵp cleient yn amrywiol ac yn newid yn barhaol, y cwbl â phrofiadau unigryw o ddigartrefedd.

Drwy rannu eu stori mewn astudiaeth achos, gall nid yn unig ymrymuso’r unigolion a bod yn sbardun dros newid, ond mae’n ogystal yn helpu’r Wallich i ysbrydoli eraill, p’un ai yw hynny yn gwneud iddyn nhw newid eu bywydau eu hunain, helpu i wella bywyd rhywun arall neu’n syml, codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r gwaith yr ydym ni yn ei wneud drwy Gymru.

Gwrandewch ar brofiadau personol yn uniongyrchol gan ein cleientiaid drwy ddarllen eu hastudiaethau achos a chael eich ysbrydoli i wneud digartrefedd yn rhan o’r gorffennol yng Nghymru.

Nathan
15 Sep 2026

Stori Nathan

Am fwy na degawd, bu Nathan yn gaeth i gyffuriau a oedd yn rheoli ei fywyd. Gyda chymorth gan The Wallich, mae’n byw bywyd heb gyffuriau erbyn hyn. Mae’n byw’n annibynnol ac yn benderfynol o ddefnyddio ei brofiadau i helpu eraill i ffynnu.