Stori Geraint

12 Apr 2024

Bu Geraint yn gweithio gyda’n mentoriaid yng Ngogledd Cymru o ddechrau mis Ionawr 2024

Yn The Wallich, rydym yn gweithio gyda phobl i wella eu safon byw i raddau mwy na dim ond rhoi to dros eu pennau.

Bu The Wallich yn gweithio gyda Geraint i leihau ei ddibyniaeth ar alcohol, ailgysylltu ag ef ei hun, magu hyder ac edrych tuag at y dyfodol.

Darllenwch ei stori

Geraint on mountain drinking hot drink with a dog

Bywyd cyn The Wallich

Roedd Geraint wedi cysylltu â The Wallich am y tro cyntaf drwy ein gwasanaeth Mentora Cymheiriaid yng Ngogledd Cymru sy’n gweithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau.

“Rydw i wedi bod yn mynd i grwpiau The Wallich ers y flwyddyn newydd. Roeddwn i’n cael trafferth cysgu. Roedd angen alcohol arnaf i gysgu.”

Yna, ar ddechrau mis Ionawr 2024, dangosodd Geraint ddiddordeb yn ein prosiect Ymgysylltu a Lles. Daeth draw i gyfarfod ‘cwrdd a chyfarch’ ar gyfer y Rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored, ar ôl cael gwybod amdano gan ein Mentor Cymheiriaid yng Ngogledd Cymru, Bronwyn.

Roedd y rhaglen wedi apelio at Geraint oherwydd ei bod yn eich tynnu o’ch amgylcheddau arferol a’ch rhwydweithiau cymdeithasol. Mae’n rhoi cyfle i anadlu, gan leihau pwysau allanol a chaniatáu amser ar gyfer twf personol.

textimgblock-img

Goresgyn ofnau

Ar y dechrau, dywedodd Geraint efallai y byddai ganddo ddiddordeb yn elfen gerdded y rhaglen. Roedd arno ofn uchder, felly nid oedd yn siŵr am y sesiynau dringo.

Ond, yn drawiadol, pan ddaeth i’r sesiwn gyntaf ar y wal ddringo, roedd Geraint wedi bwrw iddi’n frwd. Roedd hyd yn oed wedi cefnogi’r cyfranogwyr eraill ac wedi dringo ei hun, rhywbeth roedd yn falch iawn ohono.

Yn y diwedd, daeth Geraint i bob sesiwn o’r rhaglen, gan ddangos brwdfrydedd go iawn tuag atynt.

Rhagori ar ddisgwyliadau

Roedd Geraint wedi dweud yn aml fod dod i’n sesiynau lles gweithredol wedi ei gwneud yn haws iddo yfed llai o alcohol.

Rydym yn cynnig profiadau anghyffredin neu hwyliog sy’n helpu i wella lles yr unigolyn a’i helpu i ddod allan o’i drefn arferol.

Gostyngodd ei ddibyniaeth ar alcohol i’w helpu i gysgu yn y nos.

Roedd cyflawniad arbennig iawn i ddod. Fe wnaeth Geraint ymgymryd â thaith gerdded ym mynyddoedd y Carneddau yn Eryri. Ar ddiwedd y daith, roedd angen cysgu dros nos mewn cwt.

Roedd mynd i’r afael â’r mynyddoedd yn un peth, ond nid tasg hawdd oedd ymdopi ag amodau cysgu anodd heb ddefnyddio alcohol. Ond, er hynny, fe lwyddodd!

Yn ystod y rhaglen 10 wythnos, roedd hefyd wedi cymryd rhan yn y canlynol:

textimgblock-img

Beth mae Geraint yn ei wneud erbyn hyn?

“Rydw i wedi bod yn mynd i’r gweithgareddau grŵp ar ddydd Mawrth a dydd Iau ac maen nhw wedi rhoi ffocws newydd i mi i ddod o hyd i swydd newydd a chael fy nerbyn ar ei chyfer.

Mae’r teithiau cerdded a’r gweithgareddau wedi helpu fy mhwysedd gwaed a’m hyder.”

Mae Geraint wedi cwblhau rhaglen 12 wythnos Fit Dragons Clwb Pêl-droed Wrecsam ac wedi cael y wobr am y nifer fwyaf o gamau yn ystod y rhaglen – bron i 1.6 miliwn ohonynt!

“Rwy’n meddwl bod y fferm, y teithiau cerdded a’r grŵp cerdded ar ddydd Sul i gyd wedi helpu, ac wrth gwrs cerdded i’r garej”.

“Mae’n drist ei weld yn gadael y grwpiau a bydd colled ar ei ôl.

Ond mae pawb mor falch o’r hyn mae o wedi’i gyflawni a faint o ymdrech mae wedi’i wneud i gyrraedd y pwynt hwn!” 

– Mentor Ymgysylltu a Lles The Wallich