Gwella trwy fyd natur: rhaglen datblygiad personol awyr agored sy’n seiliedig ar drawma yn arwain at newid cadarnhaol

Blog gan Grant Hyatt, Rheolwr Ardal Gogledd Ddwyrain Cymru

06 Feb 2023

Mae ein rhaglen awyr agored arloesol sy’n defnyddio byd natur yn cael effaith gadarnhaol ar bobl sy’n cael eu cefnogi gan The Wallich a’r gymuned ehangach

Dyma sut mae’n gwneud hynny

Daw’r cyfranogwyr o amrywiaeth o gefndiroedd ac mae ganddynt brofiadau fel digartrefedd, defnyddio sylweddau neu’r system cyfiawnder troseddol.

Mae’r rheini sy’n cymryd rhan wedi cael cynnig profiadau fel cerdded mynyddoedd, dringo dan do, cerdded ceunentydd, caiacio a phadl-fyrddio ar eu traed.

Nod y prosiect yw tynnu pobl allan o’u hamgylchedd a’u rhwydweithiau cymdeithasol arferol, gan roi lle i bobl anadlu, lleihau pwysau allanol a chaniatáu amser ar gyfer twf personol.

Effeithio ar y gymuned

Yn ystod y sesiynau, mae cymuned wedi datblygu.

Mae’r cyfranogwyr yn siarad am fod yn rhan o grŵp sy’n trin ei gilydd, a’u hamgylchedd, gyda pharch – rhywbeth nad ydyn nhw bob amser wedi’i gael, yn eu bywyd cartref, ymysg cyfoedion neu mewn sefydliadau.

Y tu hwnt i’r cyfranogwyr, daeth y rhaglen â sefydliadau at ei gilydd a oedd wedi ymrwymo i ffordd arloesol o gefnogi pobl sy’n ddigartref.

Mae Cyngor Sir Ddinbych, UK Mountain Days, Ways of Mindfulness, Outdoors Magic, Webtogs, The Draker Shop a Joe Browns, i gyd wedi helpu i greu profiadau i bobl sydd fel arall wedi’u heithrio o gymdeithas.

Mae partneriaeth â’r cwmni dillad awyr agored Rohan, wedi rhoi cyfle i The Wallich siarad am drawma a digartrefedd yng nghylchlythyrau ac erthyglau’r cwmni – gan integreiddio pobl sy’n profi digartrefedd yn well yn y gymuned cerdded a dringo.

Gwahaniaeth uniongyrchol: sut mae cyfranogwyr yn dweud ei fod wedi helpu

Mae llawer o’r cyfranogwyr yn honni bod y gwelliannau i’w hiechyd emosiynol a meddyliol yn deillio o fod yn rhan o rywbeth, o gymuned, lle’r oedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin â pharch.

Does neb yn gweiddi arnyn nhw, does neb yn eu bychanu, maen nhw’n gallu eistedd mewn heddwch ac maen nhw’n mwynhau rhywbeth cadarnhaol ac iach ar y cyd.

Dywed un cyfranogwr fod ei amgylchedd arferol yn cynnwys clywed gweiddi neu bobl eraill yn cael eu trin yn wael pan fyddan nhw’n cerdded i lawr y stryd.

Roedd rhai cyfranogwyr mewn gwestai drwy gydol y pandemig, ac, oherwydd prinder tai ledled y DU, maen nhw’n dal yno ryw ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, yn anffodus.

Mae byw o ddydd i ddydd gyda’r lefel honno o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd yn gallu cael effaith niweidiol iawn ar ein gallu i feddwl yn gadarnhaol am y dyfodol. Mae’n fwy anodd symud tuag at fywyd lle mae hunandosturi a hunanddelwedd negyddol yn perthyn i’r gorffennol.

Gweithiodd pob unigolyn mor galed ar y diwrnodau yr aethon nhw i’r sesiynau, pob un yn dangos dewrder, penderfyniad, ymrwymiad ac amynedd.

Mae pawb, beth bynnag fo’u swydd, hynny yw, Arweinydd Mynydd, Seicotherapydd, aelod o staff neu gleient, yn trin ei gilydd â pharch, ac yn dangos cefnogaeth ac anogaeth.

Beth oedd y gwelliannau yn eu llesiant yn ei olygu i’w bywydau bob dydd y tu allan i’r rhaglen?

Mae’r 16 o gyfranogwyr a aeth i’r sesiynau wedi sôn am deimlo’n well amdanyn nhw eu hunain am gyfnodau ar ôl bod.

Soniodd un cyfranogwr am ofalu am ei lety dros dro yn well – roedd yn glanhau mwy ac yn coginio’n rheolaidd.

Dywedodd un o’r menywod a gymerodd ran wrth y tîm:

“Hwn oedd diwrnod gorau fy mywyd, erioed.”

Doedd hi ddim yn gwybod sut i nofio, ond yn ystod un sesiwn roedd hi’n arnofio’n hyderus yn yr afon yn gwisgo fest bywyd ac yn dangos llai o ofn o’r dŵr.

Wrth feddwl am un unigolyn a oedd yn ddibynnol ar alcohol, sylwodd y staff ar newidiadau yn ei ymddygiad dros gyfnod y rhaglen. Dangosodd yr unigolyn lai o frys i yfed ar ôl diwrnod yn y mynyddoedd.

Dywedodd yr un unigolyn ei fod yn awr eisiau ailddechrau yn ei leoliad gwirfoddoli.

Yn wir, dywedodd llawer o’r cyfranogwyr eu bod nhw’n sylweddoli y bydden nhw’n ei chael hi’n anodd cymryd rhan mewn gweithgareddau pe baen nhw dan ddylanwad diod neu gyffuriau. Felly fe ddechreuon nhw reoli pethau eu hunain a lleihau eu defnydd o alcohol a chyffuriau.

Mae The Wallich wedi gweld bod cael lle tawel a chymorth gan seicotherapydd hyfforddedig wedi annog sgyrsiau nad ydyn nhw efallai wedi digwydd mewn amgylchedd cymorth traddodiadol.

Gan fod staff o The Wallich hefyd yn mynd i’r sesiynau hyn, bydd y canlyniadau unigol a’r cynnydd hefyd yn dylanwadu ar gefnogaeth y cyfranogwyr yn y dyfodol.

Beth nesaf i The Wallich yn yr awyr agored?

Yn ddiweddar, cawsom gadarnhad gan ffynhonnell ariannu arall, ein bod yn gallu darparu’r cyfleoedd hyn i ddau grŵp arall o bobl o’n gwasanaethau ledled gogledd Cymru.

textimgblock-img

Hefyd, mae’r cysylltiadau a helpodd i roi hwb i hyn i gyd yn hynod gefnogol o hyd.

Yn ddiweddar, mae Outdoors Magic wedi anfon pecyn arall o ddillad awyr agored anhygoel.

Diolch i gyflwyniad gan MyOutdoors, mae The Wallich yn mynd i elwa o ymgyrch rhoi dillad cwmni Rohan, sef Gift Your Gear, a fydd yn golygu bod ein cronfa o ddillad ac offer awyr agored yn tyfu hyd yn oed mwy.

Mae tystiolaeth o bob rhan o The Wallich fod gweithgareddau dargyfeirio yn helpu nid yn unig o ran llesiant unigolyn, ond hefyd o ran y perthnasoedd mae staff cymorth yn gweithio mor galed i’w meithrin.

Fel gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, dylid cynnwys rhaglenni fel hyn mewn comisiynu a chyllido. Gallai’r manteision i bawb fod yn enfawr.

Tudalennau cysylltiedig