Gwasanaeth cyfrannu at elusen ar gyfer y Wallich yw hwn.
Mae neges destun yn costio £4. Bydd y Wallich yn derbyn 100% o’ch cyfraniad. Dylech chi gael caniatâd y sawl sy’n talu’r bil cyn tanysgrifio. Gwasanaeth tanysgrifio yw hwn, bydd yn costio £4 y mis nes i chi ateb y neges rad ac am ddim gyda neges destun “STOP”.
Byddwch chi’n derbyn cadarnhad o’ch tanysgrifiad mewn 24 awr. Bydd nodyn atgoffa misol rhad ac am ddim yn cael ei anfon cyn casglu’r cyfraniad, a fydd yn eich darparu gyda manylion ynglŷn â sut i ‘FETHU’ taliad. Bob tri mis, bydd y neges hon hefyd yn eich atgoffa chi sut i ‘STOPIO’R’ tanysgrifiad.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch rhodd, cysylltwch supportercare@thewallich.net os gwelwch yn dda.
Bydd eich data yn cael ei drin yn unol â GDPR. Byddwn yn storio eich manylion personol yn ddiogel ac ni fyddwn byth yn gwerthu eich manylion personol i sefydliad arall.
Darperir ein gwasanaeth rhoi drwy SMS gan ddarparwr llwyfan symudol trydydd parti, instaGiv, a fydd yn casglu eich manylion ar ein rhan ac yn eu pasio ymlaen atom ni.
InstaGiv yw enw masnachu ClearCourse Business Services Limited, cwmni cofrestredig o dan Rif Cwmni 06912469.
The Wallich, Llawr 1af, 18 Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3DC. Rhif Cofrestru’r Elusen 1004103. Person Cyfrifol: Michael Cowley.
Mae The Wallich wedi cael ei drwyddedu fel hyrwyddwr cymdeithasol bychan gan Gyngor Sir Gaerdydd o dan rif trwydded SL0004, Deddf Gamblo 2005, www.gamblingcomission.gov.uk.
Mae cymryd rhan yn Raffl Gaeaf The Wallich yn costio £2 y tocyn ac yn agored i bob preswylwyr yn y Deyrnas Unedig sydd yn hŷn na 16 mlwydd oed (nid yw hyn yn cynnwys Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, ac Ynysoedd y Sianel). Nid oes modd gwerthu’r tocynnau ar y stryd neu o ddrws i ddrws. Ni ellir eu prynu na’u gwerthu gan unigolion o dan 16 oed.
Bydd yr arian sydd yn cael ei godi yn mynd tuag at gefnogi gwaith The Wallich, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth i bobl ar draws Cymru y mae digartrefedd wedi effeithio arnynt.
Gellir gwneud taliadau ar gyfer cymryd rhan yn y raffl gyda chardiau credyd neu debyd, siec, archeb bost neu arian parod. Yn anffodus nid ydym yn gallu derbyn taleb CAF neu unrhyw dalebau elusen eraill fel ffordd o dalu am docyn.
Bydd y tocynnau i gyd yn cael eu cynnwys yn y raffl unwaith bydd y ticed a’r taliad cyfan wedi dod i law.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn y tocynnau Raffl Nadolig The Wallich yw Dydd Gwener 16 Ionawr, 2023. Bydd y ticedi sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau ddim yn cael eu cynnwys yn y raffl a bydd y taliad yn cael ei drin fel rhodd i helpu’n gwaith – Diolch.
Bydd yr hyrwyddwr ddim yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb os bydd eich ffordd o dalu yn cael ei ganslo mewn camgymeriad.
Does dim cyfrifoldeb ar yr hyrwyddwr os bydd tocynnau a thaliadau ar goll, wedi’u gohirio, neu wedi cael eu torri yn y post a bydd tystiolaeth o bostio ddim yn cael ei dderbyn fel derbynneb.
Mae pob tocyn sy’n dod i law ac sydd wedi cael eu talu amdanynt yn llawn cyn y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn y raffl.
Bydd y Raffl yn digwydd ar 30 Ionawr, yn The Wallich, Llawr 1af, 18 Plas y Parc, Caerdydd CF10 3DQ a Bydd y tocynnau’n cael eu tynnu ar hap drwy ddefnyddio generadur rhifau ar hap.
Bydd gwobr yn cael eu rhannu yn ôl y drefn y mae’r tocynnau raffl yn cael eu tynnu:
Bydd enillwyr yn cael galwad ffôn ac yn cael eu gwobrau trwy’r post. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd ar y ffôn yna bydd yn cael gwybod ar bapur.
Bydd rhestr o enillwyr ar wefan The Wallich, a bydd ar gael drwy ffonio 02921 508 800.
Bydd enillwyr yn cael eu cyfweld er mwyn dweud gair neu ddau am ennill gwobr, a hynny er mwyn helpu The Wallich i hyrwyddo Raffl codi arian yn y dyfodol.
Mae’r canlyniad yn derfynol. Ni fyddwn yn gohebu â chi yn ei gylch.
Mae The Wallich wedi ymrwymo i hyrwyddo gamblo agored a chyfrifol. Mae Raffl y Gaeaf yn
Er bod y mwyafrif o bobl dim ond yn gamblo’r hyn y gallant eu fforddio, rydyn ni’n deall bod gamblo yn gallu bod yn broblem i rai.
Os rydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch chwilio am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr proffesiynol ar Gambleaware drwy ffonio 0808 8020 133 am ddim neu drwy fynd ar wefan www.gambleaware.co.uk.
Er mwyn cefnogi gamblwyr sydd gyda phroblemau, rydyn ni’n gweithredu polisi hunan-gwahardd, sydd yn golygu na fyddwch yn derbyn unrhyw wybodaeth am enillwyr y raffl.
Er mwyn cael eich ychwanegu ar y rhaglen hunan-gwahardd cysylltwch â ‘r tim codi arian trwy ffonio 02921 508 800 neu drwy anfon e-bost at dosomething@thewallich.net.