Cymorth & Chyngor

Ble allwch chi gael cymorth os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yng Nghymru

Gofyn am gymorth gan y gwasanaethau digartrefedd sy’n gallu’ch helpu chi yw’r cam cyntaf

Cael cymorth

Dywedwch wrth eich cyngor lleol

Os ydych chi’n ddigartref neu’n meddwl y gallech chi fod yn ddigartref yn fuan, mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor.

Bydd gan eich cyngor neu’ch awdurdod lleol dîm Opsiynau Tai, a’u gwaith nhw yw mynd i’r afael â digartrefedd yn yr ardal.

Mae 22 o gynghorau yng Nghymru.

I ddod o hyd i’ch tîm Opsiynau Tai, chwiliwch am ‘Opsiynau Tai’ ac enw eich cyngor neu’ch ardal ar-lein.

________________________________________________________________________________________________

Cymorth a chyngor ychwanegol i bobl sy’n wynebu digartrefedd

Ewch i weld ein cyfeiriadur gwasanaethau i ddod o hyd i brosiect digartrefedd yn eich ardal chi.

_________________________________________________________________________________________________

Cysylltwch â Shelter Cymru

Elusen tai yng Nghymru yw Shelter Cymru ac mae eu gwefan a’u llinell ffôn yn rhoi cyngor a cyhmorth i bobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

0345 0755 005

Gallwch lwytho app Shelter Cymru i lawr ar gyfer iOS neu Android hefyd

____________________________________________________________________________________________________

Ffoniwch y Samariaid

Mae’r Samariaid yn gwrando ac yn cynnig cefnogaeth emosiynol.

Gallwch eu ffonio nhw am ddim ar unrhyw adeg.

 116 123

Os hoffech chi siarad â rhywun yn Gymraeg, gallwch ffonio rhwng 7pm ac 11pm bob dydd o’r wythnos.

0808 1640 123

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer Cymru yn unig. Mae’r system yn wahanol yn Lloegr. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Homeless Link.

_______________________________________________________________________________________________________________________________________________

Ydych chi’n poeni am rywun sy’n cysgu ar y stryd?

Mae StreetLink yn cysylltu gwasanaethau lleol â phobl sy’n cysgu ar y stryd yn eu hardal.

Rhagor o wybodaeth am StreetLink

Tudalennau cysylltiedig