Diweddaru eich dewisiadau cysylltu

Llenwch ein ffurflen syml isod heddiw i newid eich dewisiadau cysylltu

Yn The Wallich, rydym mor ddiolchgar i bawb sy’n ein helpu i wneud rhywbeth ynghylch digartrefedd yng Nghymru – waeth pa mor fach, neu fawr ydyw. 

Boed yn godi arian ar gyfer pobl sy’n ddigartref yn eich cymuned leol, arwyddo deisebau neu hyd yn oed ddarllen ein newyddlenni i weld sut gallech gymryd rhan yn y dyfodol. Ond rydym yn gofalu mai dim ond gwybodaeth, newyddion a diweddariadau sydd o ddiddordeb i chi y byddwch yn eu derbyn. 

Rydym yn deall bod pobl yn newid, felly hefyd eu diddordebau. 

Dyna pam ein bod wedi creu ffurflen i chi newid neu ddiweddaru gwybodaeth i ddweud wrthym pa ddull cysylltu sydd orau gennych.