Cyfleoedd comisiynu

CYFLEOEDD DIWEDDARAF

Galw am Ymarferydd: Y cyfryngau creadigol

Crynodeb

Ydych chi’n ymarferydd creadigol llawrydd sydd â phrofiad o weithio gyda chyfranogwyr o grwpiau sy’n wynebu risg neu sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol?

Mae The Wallich yn chwilio am dri ymarferydd profiadol a brwdfrydig sy’n arbenigo yn y cyfryngau creadigol i hwyluso gweithdai mewn tair ardal; Canolbarth – Gogledd Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022.

Mae The Wallich yn elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan.

Fel rhan o brosiect ‘Archwilio a Phrofi’ a ariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn, bydd cynnwys y gweithdy’n cael ei arwain gan ymarferwyr sydd â diddordeb, ac rydyn ni’n awyddus i archwilio unrhyw syniadau.

Byddwn yn cynhyrchu’r gweithdai ar y cyd â’n defnyddwyr gwasanaeth, i wneud yn siŵr eu bod yn ddeniadol ac o fudd i bawb.

Beth rydym yn ei gynnig?

Rydyn ni’n gofyn i bob un o’r tri ymarferydd creadigol ddarparu:

Cyfanswm o 16 diwrnod ar gyfradd o £168 = £2,688

Sut mae gwneud cais

Tudalennau cysylltiedig