Mae ein huwch dîm yn siaradwyr cymwys gyda phrofiad eang o bynciau fel cysgu allan, tai, lles, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Mae ein harbenigwyr ar gael i’w cyfweld ar gais.
Gallwn gynnig sylwadau ar newyddion sy’n torri, a gallwn ddarparu lluniau, astudiaethau achos, trefnu cyfweliadau gyda siaradwyr yn cynnwys ein defnyddwyr gwasanaeth a gwybodaeth ar ein newyddion a’n hymgyrchoedd diweddaraf.
Cysylltwch â ni o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm:
F 02920 668 464 (opsiwn 6)
E communictions@thewallich.net
Y tu allan i oriau:
F 07974 251227
Nodwch: ar gyfer y cyfryngau’n unig y mae’r rhifau hyn. Os ydych yn ddigartref, yn poeni eich bod am fod yn ddigartref neu os oes gennych unrhyw gais arall, ewch i’r dudalen ‘Cysylltu’ [LINK:]
Mynnwch wybodaeth am ein hymchwil, ein newyddion a’n ymgyrchoedd diweddaraf drwy ein datganiadau i’r wasg. I dderbyn y rhain cyn gynted ag y maen nhw’n cael eu cyhoeddi, anfonwch eich enw, sefydliad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost i: communications@thewallich.net
Rydym yn derbyn nifer o ymholiadau am gymorth gyda thraethodau, traethodau hir a phrosiectau ymchwil ac yn aml mae’n anodd i ni ymateb oherwydd y galw ar ein gwasanaethau.
Os gallwn ymateb i’ch cais, byddwn yn cysylltu’n ôl â chi. Yn anffodus, os na fyddwn yn cysylltu â chi, fyddwn ni ddim yn gallu ymateb i’ch cais y tro hwn.
Mae ein gwefan yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr, yn cynnwys ystadegau, astudiaethau achos, straeon newyddion ac adroddiadau ymchwil y mae croeso i fyfyrwyr eu defnyddio yn eu hastudiaethau.