Rhoi

Helpu pobl sy’n profi digartrefedd ar hyd a lled Cymru

Gall eich rhodd helpu i dorri cylch digartrefedd

Mae The Wallich yn cefnogi tua 7,000 o bobl sy’n profi neu’n wynebu ofn ac ansicrwydd digartrefedd yng Nghymru bob blwyddyn.

Rydyn ni’n credu bod mynd i’r afael â digartrefedd yn fwy na tho a gwely – mae’n ymwneud â theimlo’n ddiogel, teimlo’n rhan o gymuned a theimlo’n bositif am y dyfodol.

Gallai eich cyfraniadau helpu i greu’r cyfleoedd sy’n rhoi ymdeimlad o bwrpas i bobl a’u hatgoffa nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.

Cyfrannwch heddiw

Dewiswch sut hoffech chi gyfrannu:

textimgblock-img

Rhodd reolaidd

Drwy ddechrau rhodd reolaidd, byddwch yn cefnogi ein gwaith o fynd i’r afael â digartrefedd ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn.

Rhoi'n rheolaidd
textimgblock-img

Rhodd unigol

Gwnewch rodd unigol heddiw i helpu i ariannu gwasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i’r pethau sylfaenol – o gelfyddydau creadigol i raglenni cyflogadwyedd.

Gwneud rhodd untro

Pam rhoi arian?

Mae nifer o’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi wedi wynebu teimlo’n ynysig, iechyd meddwl gwael, stigma a phwysau di-baid yr argyfwng costau byw.

Ar ôl trawma digartrefedd, yr hyn all wneud y gwahaniaeth mwyaf yw cysylltiad.

Ailadeiladu hyder, dod o hyd i gymuned a theimlo eich bod yn perthyn a bod pobl yn credu ynddoch chi.

Yn aml, y prosiectau sy’n newid bywydau go iawn yw’r rhai sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn adfer ymdeimlad o bwrpas.

Fel Choir with No Name in Cardiff, sy’n  dathlu ei 5ed pen-blwydd eleni.

Mae’n rhan o’n hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd creadigol, sy’n adeiladu cymunedau, i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Bob wythnos, daw pobl o bob cefndir at ei gilydd i ganu ac i rannu pryd poeth o fwyd.

Maen nhw’n meithrin cyfeillgarwch mewn gofod croesawgar, heb feirniadaeth, lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae aelodau’r côr hefyd yn perfformio mewn digwyddiadau cymunedol, gan helpu i herio canfyddiadau digartrefedd tra’n magu hyder, balchder ac ymdeimlad o lwyddiant.

Mae tua 30 o bobl yn canu gyda ni bellach bob wythnos.

textimgblock-img

Un o’r bobl hynny yw Courtney:

“Cyn i fi ymuno â’r côr, doedd gen i ddim llawer o hyder. Rydw i nawr yn dod o’r ymarferion yn llawn afiaith ac rydw i’n teimlo mor falch ohonon ni i gyd. Mae fy nerth yn dod nôl, ac rydw i’n edrych ymlaen at fynd i’r côr bob wythnos.”

Un enghraifft yn unig yw’r côr o sut mae cefnogwyr fel chi yn helpu The Wallich i drawsnewid bywydau.

Mae ein prosiectau yn helpu pobl i feithrin y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen.

Bydd eich rhodd yn helpu pobl i ailddarganfod yr ymdeimlad o berthyn a’r hyder i ailadeiladu eu bywydau.

Diolch am ein helpu i fynd i’r afael â digartrefedd gyda’n gilydd.