Gall gweithio mewn partneriaeth gydag elusen, ym mha bynnag ffordd sy’n addas i’ch busnes chi, fod yn brofiad buddiol a gwerth chweil.
Oherwydd bod yna wahanol fathau o fusnesau, mae yna wahanol fathau o bartneriaeth gorfforaethol hefyd.
Yn The Wallich, rydym yn cydweithio’n agos gyda’n partneriaid corfforaethol i ddeall beth yr ydych eisiau ei gyflawni o’ch partneriaeth elusennol.
P’un a ydych yn enwebu The Wallich fel eich ‘Elusen y Flwyddyn’, neu’n darparu profiad gwaith i’r bobl yr ydym yn eu cynorthwyo, mae ein tîm yn datblygu perthnasoedd pwrpasol gyda chwmnïau sy’n canolbwyntio ar eich anghenion busnes, a’n helpu ni i atal digartrefedd yng Nghymru.
Cynyddu ymgysylltiad a datblygu sgiliau staff a thrwy weithgareddau codi arian ac adeiladu tîm
Gweithredu eich rhaglen Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR), gyda chyfleoedd gwirfoddoli, trosglwyddo sgiliau a lleoliadau gwaith
Nawdd, rhoddion corfforaethol a chodi ymwybyddiaeth o frand
Partneriaethau Elusen y Flwyddyn, rhoddion mewn nwyddau a chefnogaeth pro-bono
Am ragor o wybodaeth am bartneriaethau corfforaethol gyda The Wallich, cysylltwch â ni.
E-bost
corporate@thewallich.net
Ffon
029 2057 4772
“Yn ISG rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i ddenu talent newydd i’r diwydiant.
Mae ein gwaith gydag Acorn a The Wallich yn ffordd werthfawr i ni roi yn ôl i’r gymuned a helpu pobl i gyflawni.”