Gair Amdanom Ni

The Wallich ydyn ni. Rydyn ni’n gwneud rhywbeth am ddigartrefedd yng Nghymru
Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i gartref, ond yn fwy na hynny, fod pawb yn haeddu’r hawl i deimlo’n ddiogel, eu bod yn werthfawr i eraill, ac i deimlo’n bositif ynglŷn â’u dyfodol.

Mae The Wallich yn elusen ddigartrefedd yng Nghymru sy’n gweithredu dan dri amcan craidd: cael pobl oddi ar y strydoedd; cadw pobl oddi ar y strydoedd; a chreu cyfleoedd i bobl.

1. Cael pobl oddi ar y strydoedd

Mae ein Timau Ymyrraeth ar gyfer Pobl sy’n Cysgu Allan (RSIT) yn dal i helpu’r bobl ddigartref fwyaf bregus a di-drefn ar ein strydoedd drwy ddarparu gwasanaethau allgymorth ar ffurf bwyd poeth, cyngor, atgyfeiriadau a llwybrau allan o ddigartrefedd.

2. Cadw pobl oddi ar y strydoedd

Cynigiwn letyau a chymorth drwy brosiectau preswyl lle’r ydyn ni’n helpu pobl dros dro mewn lletyau’r ydyn ni hefyd yn eu rhedeg. Mae’r rhain yn cynnwys hosteli mynediad uniongyrchol, llochesi nos brys a llety i bobl â phroblemau penodol fel camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl.

3. Creu cyfleoedd i bobl

Fel rhan o’n prosiectau dysgu a chyflogaeth cynigiwn amrywiol wasanaethau i annog y bobl rydyn ni’n eu helpu i ddefnyddio eu sgiliau neu feithrin rhai newydd er mwyn ailymuno â’r byd addysg, y byd gwaith neu’r byd gwaith gwirfoddol. Rydyn ni’n darparu cyrsiau hyfforddiant, cyfleoedd i wirfoddoli a gweithdai ymarferol i helpu pobl i fod yn barod am waith.

Ein Gweledigaeth

Cymru lle mae pobl yn sefyll gyda’i gilydd i ddarparu gobaith, cymorth ac atebion i roi pen ar ddigartrefedd.

Rydyn ni’n elusen ddigartrefedd yng Nghymru sy’n gweithio’n ddiflino i gyflawni’r weledigaeth hon ochr yn ochr â’n staff, ein hasiantaethau partner ac, yn bwysicach na dim, ochr yn ochr â’r bobl a gefnogwn.

Ein Gwerthoedd

Yn ddewr – Cymerwn safiad cadarn, heriwn ein hunain ac ein gilydd. Rydyn ni’n arloesi â chynlluniau newydd yn eofn. Mae gennyn ni a’n defnyddwyr gwasanaethau y dewrder i ysgogi newid.

Yn benderfynol – Wnawn ni ddim stopio. Fe wnawn ddal ati i geisio gwneud newidiadau mawr, nid yn unig i’n helusen ond i’r bobl rydyn ni’n eu helpu. Wnawn ni ddim colli angerdd na ffocws, hyd yn oed pan fo pethau’n anodd.

Yn ddiffuant – Mae ein bwriadau yn ddilys, ac rydym yn gweithio ar y rheng flaen â phobl sydd ein hangen. Rydym yn cyd-gerdded â phobl ar hyd y llwybr ac yn defnyddio profiadau ein cyfoedion i lywio popeth a wnawn.

Yn drugarog – Bob amser – o hyd. Ni waeth sawl gwaith y daw rhywun atom i gael help, fe wnawn wrando, bod yn drugarog a’u cyfarch yn garedig.

Yn gymuned – Mae pawb yn haeddu perthyn i rywle. Fel tîm rydyn ni’n deulu a chroesawn bartneriaethau. Ymdrechwn i’r bobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt gael eu cynnwys a’u derbyn.

Amser trawsnewid

Ein cynllun busnes 2020 – 2025

Gall yr her sy’n ein hwynebu deimlo’n aruthrol, ond rydyn ni’n dal i obeithio bod modd datrys digartrefedd.

Rydyn ni’n gwybod na allwn ni ddatrys digartrefedd ar ein pen ein hunain ac y bydd yn cymryd amser.

Ein gwerthoedd fel sefydliad yw ein cwmpawd moesegol, gan arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu ein blaenoriaethau strategol rhwng 2020 a 2025.

Darllenwch gynllun busnes y sefydliad.

Tudalennau cysylltiedig