Rhoi trwy’r Gyflogres

Beth am gyfnewid eich rhodd diwrnod cyflog i’ch hun a gwneud addewid diwrnod cyflog i helpu pobl sy’n wynebu’r risg o ddigartrefedd yn eich cymuned

Pan fydd eich diwrnod cyflog yn cyrraedd o’r diwedd, mae balansau banc yn cael eu hadfer i lefel iach a gallwn fforddio prynu rhywbeth bach i’n hunan – cinio blasus, peint ar ôl gwaith neu ychydig o siopa.

Mae rhoi trwy’r gyflogres yn ffordd wych i roi rhodd reolaidd i’ch hoff achosion da.

Cofrestrwch i roi trwy’r gyflogres heddiw

I gofrestru, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cwblhau’r:

Ffurflen rhoi ar-lein

Gwnewch yn siŵr bod eich cwmni yn gweithredu cynllun fel rhan o’u buddion i gyflogeion a rhoi’r holl fanylion sydd eu hangen arnynt i brosesu eich rhodd.

Os nad oes gan eich cwmni gynllun, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybodaeth a chynnig cyngor i’ch cyflogwr ar sut i drefnu un.

Cwestiynau Cyffredin a Chyngor i Gyflogwyr

Gwnewch eich rhodd cyn didynnu treth. Os byddwch yn addo rhoi £5 y mis, bydd ond yn costio £4 i chi oherwydd byddwn yn derbyn y £1 arall fel budd treth.

Tudalennau cysylltiedig