Mentora Cymheiriaid Gogledd Cymru

Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

Gweithio gyda phobl sy’n defnyddio sylweddau yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint ac Wrecsam

Bydd y cynllun peilot newydd a chyffrous hwn yn dod â thri Mentor Cymheiriaid i dair ardal wedi’u targedu ar draws Gogledd Cymru.

Bydd Mentoriaid Cymheiriaid yn

Mae pob Mentor Cymheiriaid yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i bobl sy’n ddibynnol ar sylweddau naill ai yn y Rhyl, Shotton neu Wrecsam.

Y nod yw sicrhau bod pobl sy’n defnyddio sylweddau’n gallu goresgyn unrhyw rwystrau a symud i gyflogaeth gynaliadwy.

Bydd Mentoriaid Cymheiriaid a defnyddwyr gwasanaeth yn cael o leiaf wyth cyfarfod.

Beth i’w ddisgwyl

Atgyfeirio

Gallwch atgyfeirio drwy eich Anogwr Gwaith mewn Canolfan Byd Gwaith, neu’n uniongyrchol drwy sefydliadau eraill yn y sector statudol a’r trydydd sector.

Ar ôl derbyn atgyfeiriad, byddwch yn cwrdd â’ch Mentor Cymheiriaid lleol i drafod eich sefyllfa a’ch amgylchiadau, a llunio cynllun cymorth personol.

Dros gyfnod o tua wyth wythnos, neu fwy os oes angen, byddwch yn cwrdd â’ch Mentor Cymheiriaid i weithio tuag at eich nodau.

Ariennir y gwasanaeth hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

textimgblock-img

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Fentor Cymheiriaid neu’n Wirfoddolwr?

Hoffech chi fod yn Fentor Cymheiriaid neu’n Wirfoddolwr a helpu unigolion sy’n ddibynnol ar sylweddau?

Gallwch wneud cais am unrhyw swyddi gwag ar ein tudalen Swyddi

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni

Wrecsam: PeerMentoringWrexham@thewallich.net

Rhyl: PeerMentoringRhyl@thewallich.net

Shotton: PeerMentoringShotton@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig