Stori Mark

20 Feb 2024

Mae Mark wedi cael cymorth gan wahanol wasanaethau The Wallich yng Nghaerdydd

Mae Mark yn wynebu heriau’n ymwneud â thai ac alcohol, ac mae wedi bod yn gweithio gyda’n gweithwyr cymorth arbenigol i symud ymlaen gyda’i fywyd.

Darllenwch ei stori

Bywyd cyn The Wallich

“Roeddwn i’n byw yn y Coed Duon gyda mam.

Roedd fy mrawd a fy chwaer wedi symud allan. Dim ond fi a mam oedd gartref.

Pan oeddwn i’n 34 oed, roeddwn i wedi mynd yn fwy dibynnol ar alcohol ac roeddwn i’n ffraeo gyda mam drwy’r amser.

Rwyf hefyd yn dioddef o orbryder ac iselder, ac rwyf yn ddyslecsig.

Roeddwn i’n teimlo na allwn ymdopi â’r holl ffraeo, felly penderfynais fynd i Gaerdydd i gael dechrau newydd.

Roeddwn i’n ddigartref ac yn cysgu ar y stryd. Aeth hyn ymlaen am tua dau fis.”

Cael y cymorth cywir

“Ar ôl tua dau fis, cefais gymorth gan dîm allgymorth The Wallich. Fe wnaethon nhw roi coffi a brechdanau i mi, a fy nghyfeirio at Ganolfan Atebion The Wallich.

Oherwydd fy mhroblem gydag alcohol, llwyddodd y ganolfan i ddod o hyd i le i mi fyw ym Mhrosiect Shoreline The Wallich.

Tra roeddwn i yn Shoreline, fe wnaethon nhw fy annog i weld fy meddyg teulu, ac fe wnaeth yntau fy atgyfeirio at Uned Ddibyniaeth Caerdydd.

Cefais gwnsela ganddyn nhw, a chael fy rhoi ar restr aros i fynd i’r ysbyty i gael fy nadwenwyno o alcohol.

Hefyd, dechreuais ar yr hyfforddiant sy’n cael ei gynnig fel rhan o brosiect Dinasoedd Anweledig.

Ar ôl sbel, doeddwn i ddim yn teimlo’n gyfforddus yn Shoreline, felly gofynnais i gael fy symud. Yna, cefais fy nhrosglwyddo i Hostel Syr Julian Hodge yng Nghaerdydd.

Cefais groeso a chefnogaeth yn Syr Julian Hodge o’r cychwyn cyntaf.

Pan roeddwn i’n teimlo’n bryderus, roedd aelodau o staff ar gael i siarad â nhw bob amser. Cefais help hefyd i gael trefn ar fy mudd-daliadau gan fod fy nyslecsia yn gwneud hynny’n anodd.

Yna, es i’r ysbyty am bythefnos i gael triniaeth ar gyfer fy mhroblem alcohol.

Ar ôl pythefnos, dychwelais i Hostel Syr Julian Hodge. Yno, cefais gefnogaeth i gadw draw oddi wrth alcohol, ac fe aethant ati i chwilio am le addas i mi fyw.

Bu’n rhaid i mi ymddangos yn y llys am drosedd a gyflawnwyd gennyf pan oeddwn i’n yfed. Bob tro rwyf wedi bod mewn trwbl gyda’r heddlu, rwyf wedi bod yn yfed ar y pryd.

Mae bod yn rhydd o alcohol wedi rhoi dechrau newydd i mi mewn bywyd. Roedd gen i ofn mynd i’r llys ar fy mhen fy hun, felly daeth staff gyda mi.”

Ble rydych chi nawr mewn bywyd?

“Nawr fy mod i’n rhydd o alcohol, rwyf yn edrych ymlaen at ddod o hyd i rywle mwy parhaol i fyw.

Rwyf wedi cwblhau fy hyfforddiant gyda Dinasoedd Anweledig, ac rwyf bellach yn dywysydd teithiau cerdded.

Rwyf yn dal i fynd i’r Ganolfan Atebion, ac rwyf yn rhan o’r Prosiect Straeon ar hyn o bryd.”

Beth yw’ch cynlluniau chi ar gyfer y dyfodol?

textimgblock-img

“Hoffwn gael lle fy hun lle gallai fy nghariad aros draw, a rhywle y gallaf ddod o hyd i swydd.”

Mae Mark bellach wedi symud i un o breswylfeydd eraill The Wallich, sy’n llai ac yn rhoi cyfle iddo fyw yn fwy annibynnol.

Dywedodd Gareth John, sef y Rheolwr Gwasanaeth sydd wedi bod yn cefnogi Mark yn Syr Julian Hodge:

“Symudodd Mark i mewn gyda ni ym mis Mehefin 2023, ac mae wedi cymryd camau breision ymlaen o ran ei gynnydd. Nid yw pethau wedi bod yn fêl i gyd, ond mae Mark wedi goresgyn yr holl rwystrau yn ei ffordd.

Mae bellach wedi symud ymlaen i lety arall, lle mae llai o gefnogaeth ar gael.

Yn ystod ei gyfnod gyda ni, roedd Mark bob amser yn gwrtais ac yn ymgysylltu’n dda â staff.

Byddai Mark yn aml yn cynnig help llaw, gan helpu staff gydag unrhyw dasgau a chefnogi preswylwyr eraill yn ôl yr angen.

Roedd yn bleser cael bod yn rhan o siwrnai Mark yn ystod ei gyfnod byr gyda ni, ac fel tîm o staff hoffem ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig