Etholiadau 2024 Gofynion The Wallich i ymgeiswyr ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Etholiadau 2024 Gofynion The Wallich i ymgeiswyr ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
The Wallich yw elusen digartrefedd fwyaf Cymru. Mae’n darparu dros 100 o wasanaethau mewn 20 o awdurdodau lleol yng Nghymru.
Rydym yn gwahodd darpar ymgeiswyr ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i ymuno â ni i eiriol dros bobl sy’n profi digartrefedd, cysgu allan, defnyddio sylweddau ac iechyd meddwl gwael.
Yn The Wallich, rydym yn gofyn i ymgeiswyr ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ystyried y canlynol:
Rhoi terfyn ar or-blismona pobl sy’n ddigartref, yn cysgu allan neu unrhyw un sydd heb unman i fynd
-
Bil Cyfiawnder Troseddol y DU
Os caiff y Bil ei wneud yn gyfraith, gofynnwn i chi weithio gydag elusennau digartrefedd ar ddehongliadau o iaith amwys ynglŷn â chysgu allan.
-
Canolbwyntio ar adsefydlu ac atebion cymunedol yn hytrach nag arestiadau
Credwn fod gor-blismona’r bobl a gefnogir gennym yn arwain at fwy o risg y bydd pobl yn mynd i ddyledion y tu hwnt i reolaeth yn sgil dirwyon, y bydd mwy o risg o aildroseddu a mwy o risg y bydd pobl yn cael eu rhyddhau i ddigartrefedd.
-
Osgoi Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar gysgu allan neu gardota
Credwn fod modd cyflawni llawer o nodau’r Gorchmynion yn well drwy ddeddfau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn aml yn cael eu gadael yn agored i’w dehongli ac maent yn gyrru pobl sydd angen cymorth draw oddi wrth y gwasanaethau sydd ar gael i’w helpu.
Croesawu dulliau lleihau niwed ar gyfer y defnydd o sylweddau
Credwn mai mater iechyd yw defnyddio sylweddau, nid mater cyfiawnder troseddol. Credwn ei bod hi’n bryd cael trafodaeth realistig ar sut i fynd i’r afael â chyffuriau yng Nghymru.
- Ymrwymo i weithio gydag asiantaethau sy’n arbenigo ym maes cyffuriau
- Dylid hyfforddi pob aelod o’r heddlu i gario Naloxone
- Annog profi am gyffuriau drwy WEDINOS neu weithio gydag asiantaethau i ddarparu profion mynediad cyflym mewn cymunedau
- Bod yn agored i dreialu Canolfan Atal Gorddos yng Nghymru
Galwadau am ymatebion iechyd meddwl sy’n ystyriol o drawma
Gwelwn faint o adnoddau y mae’n rhaid i swyddogion yr heddlu eu hymrwymo i ymateb i bobl mewn argyfwng iechyd meddwl.
- Croesawu’r Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma – anogwch eich swyddogion i weld y person o’u blaenau, nid yr argyfwng o’u blaenau
- Cyd-fynd â strategaethau iechyd meddwl a digartrefedd lleol yn y rhanbarth
- Helpwch ni i ddylanwadu ar fyrddau iechyd Cymru ac awdurdodau lleol gyda’r gofynion yn ein hadroddiad Gohirio Iechyd Meddwl.
Gwent:
-
Labour – Jane Mudd
-
Conservatives – Hannah Jarvis
-
Plaid Cymru – Donna Cushing
-
Liberal Democrats – Mike Hamilton
South Wales:
-
Labour – Emma Wools
-
Conservatives – George Carroll
-
Plaid Cymru – Dennis Clarke
-
Liberal Democrats – Sam Bennett
North Wales:
-
Labour – Andy Dunbobbin
-
Conservatives – Brian Jones
-
Plaid Cymru – Ann Griffith
-
Liberal Democrats – Richard Marbow
Dyfed Powys:
-
Labour – Philipa Ann Thompson
-
Conservatives – Ian Harrison
-
Plaid Cymru – Dafydd Llywelyn
-
Liberal Democrats – Justin Griffiths
Agor sgwrs gyda The Wallich
Byddem yn croesawu trafodaethau agored gyda chi yn ystod eich ymgyrch ac wedyn.
Cysylltwch â communications@thewallich.net i drefnu cyfarfod gydag un o’n harbenigwyr.