Raffl Gaeaf The Wallich 2023

Cymerwch ran yn raffl gaeaf The Wallich am eich cyfle i ennill

Raffl yn cau: Ar gau
Enillwyr yn cael eu cyhoeddi: Dydd Mercher 31 Ionawr 2024

Gwobrau raffl ar gyfer 2023

  1. Picnic Cymreig moethus mewn basged wiail gan y Welsh Hamper Company – Mathew J – Caerdydd
  2. Taleb Love2Shop gwerth £150 – Sam H – Llanelli
  3. Siampên Cattier – Kate O – Caerdydd
  4. Dewis o anrhegion cwrw Bragdy Bro Morgannwg – Karen H – Gainsborough
  5. Tocyn sba neu westy OffPeakLuxury.com gwerth £50 – Jeff J – Dinas Powys
  6. Cynhyrchion harddwch Patisserie de Bain – D. W – Y Fenni
  7. Potel o Prosecco – Emma Y – Llangynidr
  8. Taith Invisible (Caerdydd) a the prynhawn i ddau – Mags B – Barri
  9. Fodca premiwm Grounds for Good  – Mario O – Oswestry
  10. Blanced vintage â phatrwm tapestri Cymreig gwyrdd a phorffor – Rebecca H – Pen-y-bont ar Ogwr
  11. Ffwrn Ffrio Fach Ddigidol o Lakeland 2L x 2 – Adam P – Caerdydd & Claire S – Casnewydd

Rydym wedi cysylltu â’r holl enillwyr i ddod i hawlio eu gwobr.

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â dosomething@thewallich.net

Diolch i bawb am gymryd rhan. Mae Raffl Gaeaf The Wallich 2023 wedi codi swm anhygoel o £2,662 i gefnogi pobl sy’n ddigartref.

Pam cefnogi ein raffl?

Dim ond ychydig o’r pethau y mae pobl Cymru yn delio â nhw yw biliau cynyddol, taliadau morgais a rhent uchel, prisiau bwyd eithafol a chyflogau isel.

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith uniongyrchol ar aelwydydd yng Nghymru ac yn rhoi llawer mwy o bobl mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nod ymgyrch gaeaf The Wallich 2023 yw lliniaru’r caledi a wynebir gan unrhyw un sy’n ddigartref, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu mewn tai agored i niwed yng Nghymru yn ystod misoedd oer y gaeaf.

Er bod camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a ledled y DU, mae digartrefedd yn dal ar gynnydd.

textimgblock-img

Os rydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch chwilio am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr proffesiynol ar Gambleaware drwy ffonio 0808 8020 133 am ddim neu fynd ar y wefan www.gambleaware.co.uk.

Tudalennau cysylltiedig