Ni ddylai unrhyw un ohonom gael ein hystyried yn droseddwyr am fod yn ddigartref

06 Feb 2024

Dywedwch wrth eich AS:

Ni ddylai unrhyw un ohonom gael ein hystyried yn droseddwyr am fod yn ddigartref

Legs in a doorway

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried cyfreithiau newydd a fyddai unwaith eto’n golygu bod pobl sy’n cardota neu’n cysgu ar y stryd yn cael eu hystyried yn droseddwyr.

Roedden ni’n meddwl ein bod wedi cael gwared â’r agwedd greulon hon unwaith ac am byth pan gafodd y Ddeddf Crwydradaeth hynafol gael ei diddymu yn 2022, ac roedd yn hen bryd i hynny ddigwydd.

Petai’r Bil Cyfiawnder Troseddol yn cael ei basio, byddai’n golygu bod pobl yng Nghymru a Lloegr yn gallu wynebu dirwyon, cofnod troseddol, neu hyd yn oed ddedfryd o garchar am gardota neu’r hyn a elwir yn ‘gysgu allan niwsans’.

Mae’r Bil yn dweud y gallai rhywun gael ei ystyried yn ‘niwsans’ hyd yn oed os yw’n ‘edrych fel ei fod yn bwriadu’ cysgu allan. Credwn y bydd y geiriad amwys hwn yn cael ei ddefnyddio i gosbi pobl nad ydynt yn peri unrhyw berygl i neb arall, ac nad oes ganddynt unman arall i fynd.

Mae’r ffaith bod digartrefedd yn dal i fodoli yn 2024 yn arwydd o fethiant gwleidyddiaeth – gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

A fyddech chi’n cefnogi cyfraith newydd a allai ystyried pobl sy’n cysgu ar y stryd yn droseddwyr ac a fyddai’n eu cosbi gyda dirwy o hyd at £2,500? Credwn fod hyn yn fesur anghymesur ac afrealistig.

Ni fydd y Bil hwn yn gwneud dim i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yn y DU. Yn hytrach, bydd yn cosbi’r rheini sydd wedi cael eu gadael i lawr gan system a ddylai fod yn ein cadw ni i gyd yn ddiogel.

Mae’r Bil yn cael ei drafod yn Senedd y DU ar hyn o bryd. Gyda’n gilydd, gallwn atal y cynlluniau hyn – ond mae arnom angen ASau ar draws pob plaid i godi llais yn eu herbyn.

Gweithredwch

Mae ein ffrindiau yn Crisis yn galw am sgrapio’r cynigion hyn. Yn The Wallich, rydyn ni’n cefnogi’r galwadau i atal y Bil Cyfiawnder Troseddol.

Mae Crisis wedi datblygu adnodd defnyddiol i ddod o hyd i’ch AS lleol, ac mae wedi darparu templed e-bost i rannu ein pryderon.

A wnewch chi anfon e-bost at eich AS yn gofyn iddynt helpu i atal y cynlluniau creulon a diangen hyn?

Tudalennau cysylltiedig