Maniffesto 2021

Mae angen rhoi archwiliad iechyd i ddigartrefedd

01 Apr 2021

Mae angen rhoi archwiliad iechyd i ddigartrefedd - Senedd 2021

Mae angen rhoi archwiliad iechyd i ddigartrefedd

Mae etholiadau Cymru 2021 yn digwydd ar adeg sy’n groesffordd i’n gwlad.

Ar ôl blwyddyn anodd yn 2020, gyda phandemig byd-eang y coronafeirws wedi herio ein cymunedau yn fwy nag erioed o’r blaen, a’r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli wedi ehangu’n sylweddol, bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn gyfrifol am adeiladu’n ôl yn gryfach nag o’r blaen.

Mae dau beth amlwg wedi’n taro ni.

Yn gyntaf, gan fod cynifer o bobl wedi treulio mwy o amser dan do nag erioed o’r blaen, mae’n bwysicach nag erioed cael rhywle diogel a chyfforddus i’w alw’n gartref.

textimgblock-img

Yn ail, mae’r pandemig wedi dangos yn bendant bod tai o ansawdd da yn broblem gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd.

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn llwyddiannus iawn; ym mis Ebrill 2020 darparwyd llety brys i 407 o unigolion a oedd wedi bod yn cysgu allan, ar sail iechyd y cyhoedd. Ond, yn yr un modd ag y mae’n beryglus cysgu allan yn ystod pandemig, mae’n beryglus ar bob adeg arall hefyd, ac nid yw’n rhywbeth y dylid ei oddef mewn cymdeithas fodern.

Darllenwch ein galwadau i bob ymgeisydd a phob plaid sy’n gobeithio bod yn rhan o Lywodraeth nesaf Cymru.

Maniffesto 2021

Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn gyfle unigryw i roi archwiliad iechyd i ddigartrefedd.

Ein galwadau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru

  1. Mae gan bawb hawl dynol i gartref
  2. Mae pawb sy’n wynebu digartrefedd yn flaenoriaeth i ni
  3. Mae ailgartrefu’n gyflym yn hanfodol er mwyn rhoi diwedd ar ddigartrefedd
  4. Ein pobl yw ein hasedau pwysicaf
  5. Comisiynu atebol sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  6. Rhaid i’r polisi camddefnyddio sylweddau gynnwys lleihau niwed
  7. Rhaid i’r wladwriaeth roi diwedd ar ryddhau pobl i ddigartrefedd