Rhaid i’r wladwriaeth roi diwedd ar ryddhau pobl i ddigartrefedd

01 Apr 2021

Credwn na ddylid rhyddhau unrhyw un o sefydliadau’r wladwriaeth i ddigartrefedd.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweld llawer gormod o bobl yn cael eu rhyddhau o garchardai heb gartref i ddychwelyd iddo.

Yn yr un modd ag y mae gan awdurdod lleol ddyletswydd i gynorthwyo pawb sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, credwn y dylai fod yn ddyletswydd ar Wasanaeth Carchardai a Phrawf EM (HMPPS) i sicrhau nad yw’r bobl sy’n gadael ei ofal yn cael eu rhyddhau i ddigartrefedd.

textimgblock-img

Yn ogystal â bod mewn mwy o berygl o broblemau iechyd corfforol a meddyliol, mae unigolion sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar heb gartref i ddychwelyd iddo hefyd yn fwy tebygol o aildroseddu, sy’n rhoi mwy a mwy o bwysau ar garchardai a gwasanaethau prawf sydd eisoes dan bwysau.

Er bod gennym ni yn y Wallich berthynas waith gadarnhaol â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yn barod, hoffem weld y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws asiantaethau yng nghyswllt materion fel tai ac iechyd yn dod yn fwy strategol, dan arweiniad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Er ein bod yn cydnabod nad yw cyfiawnder yn gyfrifoldeb sydd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, mae tai a digartrefedd wedi’u datganoli, yn yr un modd â diogelu iechyd y cyhoedd.

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i weithio’n rhagweithiol gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a Gweinyddiaeth Cyfiawnder y DU i fynd i’r afael â’r mater hwn sy’n gyfrifol am lawer o ddigartrefedd yng Nghymru.

Darllenwch ein maniffesto

Tudalennau cysylltiedig